Erlyn Tri yn Llwyddiannus am Dorri Deddf Rheoiliadau Gwelyau Haul 2010

Cafodd y tri gyfanswm dirwyon o £9,987. Plediodd yr unigolion yn euog i nifer o droseddau yn amrywio rhwng troseddau 1 i 6 dan y Ddeddf:

Trosedd 1:                
Methu gwirio fod person yn 18 oed neu drosodd yn groes i Reoliad 4 (1) a 4 (2)(b)(i) Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) (Cymru) 2010 Rheoliadau 2011. 

Trosedd 2:                
Methu cynorthwyo'r defnyddiwr i asesu eu math o groen yn groes i Reoliad 4 (1) a 4 (2)(b)(ii) Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) (Cymru) 2010 Rheoliadau 2011. 

Trosedd 3:                
Methu rhoi arweiniad i berson ar ddefnyddio gwely haul gan roi ystyriaeth i asesiad y person o'u math o groen ac unrhyw gyflyrau croen neu gyflyrau meddygol perthnasol arall yn amlwg neu a ddatgelwyd iddynt yn groes i Reoliad 4 (1) a 4 (2)(b)(iii) Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) (Cymru) 2010 Rheoliadau 2011. 

Trosedd 4:                
Methu cynghori'r person sut i weithredu'r gwely haul yn ddiogel yn groes i Reoliad 4 (1) a 4 (2)(b)(iv) Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) (Cymru) 2010 Rheoliadau 2011. 

Trosedd 5:                
Methu rhoi'r wybodaeth iechyd a ragnodwyd i'r person a nodir yn Atodlen 1 Rheoliadau 2011 Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) Cymru 2010 (Cymru) yn groes i Reoliad 7(1) Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) (Cymru) 2010 Rheoliadau 2011 . 

Trosedd 6:                
Methu darparu offer diogelu llygaid neu sicrhau fod gan y person gyfarpar diogelu llygaid gyda hwy ac i sicrhau bod cyfarpar diogelu llygaid yn cael ei wisgo yn groes i Reoliad 8 (1) Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) (Cymru) 2010 Rheoliadau 2011. 

Dywedodd y Cyng Haydn Trollope, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent:

“Rydym yn falch gyda'r canlyniadau. Bydd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn parhau i gynnal yr ymchwiliadau hyn i sicrhau fod gweithredwyr gwelyau haul yn cydymffurfio gyda'r safonau deddfwriaethol gofynnol. Byddwn yn cymryd camau gorfodi fel bo angen lle nad oes mesurau rheoli digonol i leihau'r risgiau i iechyd a diogelwch. Rydym eisiau atgoffa unigolion a busnesau sy'n bwriadu gosod gwelyau haul ar gyfer defnydd y cyhoedd eu bod yn cael eu cynghori i gysylltu ag adran amgylchedd y Cyngor i gael cyngor cyn gosod a gweithredu unrhyw offer."

Mae'r canlyniadau hyn yn dilyn erlyniadau blaenorol llwyddiannus. Dros y blynyddoedd erlynwyd nifer o unigolion a busnesau sydd wedi torri'r Rheoliadau a'r Ddeddf. Roedd llawer o achosion yn ymwneud â dioddefwyr yn dioddef llosgiadau difrifol fel canlyniad i ddiffyg rheoliadau ac asesiadau (oedran, arweiniad, asesiad math croen) mewn salonau gwely haul. Bydd ymchwiiadau i'r mathau hyn o achosion yn parhau ac mae'r Cyngor eisiau sicrhau yr amlygir y risgiau iechyd sy'n gysylltiedig. Caiff y rhai sydd â diddordeb mewn gosod neu weithredu offer gwely haul ar gyfer defnydd y cyhoedd eu hannog i gysylltu â'r Cyngor i gael mwy o gyngor a gwybodaeth.

Mae gwybodaeth am ddiogelwch gwelyau haul ar gael ar wefan y Cyngor http://www.blaenau-gwent.gov.uk/busnes/iechyd-a-diogelwch/diogelwch-gwely-haul/?L=1 neu drwy gysylltu â'r Cyngor ar 01495 35 5116.