Erlyn cyfarwyddwyr cwmni o Flaenau Gwent am gamarwain cwsmeriaid

Cafwyd A Grace Electricals Ltd yn euog o nifer o droseddau o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008, yn dilyn ymchwiliad gan dîm safonau masnach ar y cyd Blaenau Gwent a Thorfaen.

Plediodd cyfarwyddwyr y cwmni, Jason Roberts, 36, o Abertillery Road, Blaina, a Carl Jenkins, 37, o Alma Street, Abertyleri, yn euog i ddefnyddio arwyddlun y Cyngor Archwilio Cenedlaethol Contractio Gosodiadau Trydanol (NICEIC) ar mybuilder.com, gwefan sydd yn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i fasnachwyr dibynadwy, er nad oedden nhw’n aelodau o’r corff hwnnw. Pledion nhw’n euog hefyd i beidio â defnyddio gofal neu sgil rhesymol yn eu gwaith, ac am beidio cyflwyno hawliau canslo i’w cwsmeriaid.

Clywyd yr achos yn Llys Ynadon Cwmbrân ar Hydref 30 2017 a chlywodd y llys sut y bu rhaid i un cwsmer gyflogi Swyddogion Gorfodi’r Uchel Lys er mwyn chael gafael ar iawndal ar gyfer niwed a achoswyd gan y cwmni ar ôl i’r cyfarwyddwyr anwybyddu gorchmynion gan y Llys Mân Symiau a beilïod preifat.

Clywodd y llys hefyd i Mr Jenkins sefydlu cwmni arall, C Jenkins Electrics Ltd, a pharhaodd i ddweud bod y cwmni’n aelod o’r Cyngor Archwilio ar mybuilder.com ac ar Facebook. Dywedodd hefyd bod y cwmni wedi bod yn gweithredu ers tair blynedd er nad oedd wedi bod.

Gorchmynnwyd A Grace Electrics Ltd i dalu £2,625, yn ogystal â £960.99 o gostau’r cyngor a gordal dioddefwyr o £170.  Gorchmynnwyd i Mr Roberts, fel cyfarwyddwr, dalu £1,500 a gordal dioddefwyr o £170.  Gorchmynnwyd i Mr Jenkins, a oedd yn gyfarwyddwr ar adeg y troseddau, dalu £2,600 yn ogystal â gordal dioddefwyr o £170.

Gorchmynnwyd C Jenkins Electrics Ltd i dalu £2,250 o gostau, yn ogystal â chostau’r cyngor o £771.03, a gordal dioddefwyr o £170.  Gorchmynnwyd i Mr Jenkins hefyd, fel cyfarwyddwr, dalu £1,500.

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, yr aelod gweithredol â chyfrifoldeb dros ddiogelu’r cyhoedd yng nghyngor Torfaen: “Mae sefydliadau masnach fel NICEIC yn cynnig tawelwch meddwl i gwsmeriaid felly mae’n gwbl iawn bod busnesau sy’n hawlio ar gam eu bod yn aelodau o’r cyrff yma yn cael eu hymchwilio a’u herlyn.

“Yn yr achos yma roedd cyfarwyddwyr y cwmnïau yma nid yn unig yn hawlio’n gam eu bod yn aelodau ond yn trin eu cwsmeriaid yn anghyfreithlon hefyd, felly mae hyn yn ganlyniad gwych.

“Os oes gan drigolion amheuon am gwmni sy’n honni bod yn aelod o gorff masnach yna rydw i’n eu hannog i ofyn am rif aelodaeth a gwaith papur perthnasol, ac i wirio’r sefyllfa gyda’r sefydliadau hynny’n uniongyrchol.”