Enwi ysgol newydd

Enw ysgol gynradd newydd yn Abertyleri fydd Campws Six Bells yn dilyn pleidlais ymysg y cyhoedd ac ymgyfraniad disgyblion.

Mae'r ysgol newydd yn rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri a bydd yn cymryd lle ysgolion presennol Bryngwyn a Stryd yr Eglwys, gan ddarparu cyfleusterau dysgu modern ar gyfer dros 300 o blant.

Gofynnodd y Gymuned Ddysgu i ddisgyblion, rhieni a'r gymuned yn ehangach i awgrymu enwau ar gyfer yr ysgol ac roedd rhestr fer o dri enw:

• Campws Six Bells
• Campws Arael Griffin
• Campws y Guardian

Wedyn gofynnwyd i'r gymuned bleidleisio ar yr enwau hyn drwy'r ysgol a thrwy bleidlais ar-lein ar wefan Cymuned Ddysgu Abertyleri. Roedd yn ganlyniad agos gyda Champws Six Bells yn ennill drwy drwch blewyn. Cafodd cyfanswm o 1,165 pleidlais eu bwrw.

Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn mewn cyfleusterau addysgol yn yr ardal yn bosibl oherwydd y rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif, sy'n darparu cyllid ar gyfer gwelliannau ysgol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Blaenau Gwent.

Caiff yr ysgol ei hadeiladu gan y contractwr Morgan Sindall. Mae gwaith adeiladu'n mynd rhagddo'n dda. Mae'r ffrâm bren wedi'i gorffen, mae gwaith ar y to yn agosau at ei orffen, mae slabiau'r llawr daear a'r llawr cyntaf wedi eu gorffen ac mae'r gwaith wedi dechrau ar y ffram wal allanol. Disgwylir i'r ysgol fod yn barod erbyn haf eleni, yn barod i ddisgyblion symud iddi o fis Medi.

Dywedodd John Wilson, Pennaeth Interim Cymuned Ddysgu Abertyleri:

"Rwy'n falch iawn y cafodd y gymuned ehangach gyfle i gymryd rhan wrth enwi'r campws newydd. Mae staff a disgyblion yn mwynhau cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau gyda Morgan Sindall i baratoi ar gyfer symud i'r cyfleusterau newydd hyn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r gymuned ehangach ar gynlluniau'n gysylltiedig â'r safle newydd yn y dyfodol."

Dywedodd y Cyng Clive Meredith Aelod Gweithredol y Cyngor gyda chyfrifoldeb am Addysg:

"Bydd yr ysgol newydd yn rhoi'r cyfleusterau addysgol modern o'r radd uchaf y mae plant a phobl ifanc yr ardal hon yn eu haeddu. Rydym wrth ein bodd i'r disgyblion a'r gymuned leol gael llais wrth enwi'r ysgol gan y gwn fod yr ysgolion yn gwethfawrogi eu cysylltiadau gyda'r gymuned ac yn edrych ymlaen at barhau gyda hyn pan symudant i'w cartref newydd."