Enwi Parc Bryn Bach yn Safle Porth Darganfod

Cafodd Parc Bryn Bach ei enwi'n  un o'r Safleoedd Porth Darganfod fydd yn rhannu £7m o fuddsoddiad fel rhan o'r gwaith i greu Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae'n ymuno â Pharc  Ynysangharad, Gwarchodfa Natur Parc Slip, Parc Gwledig Cwm Dâr, Castell Caerffili, Coedwig Cwmcarn, Canolfan Ymwelwyr Treftadaeth Byd Blaenafon, Parc Cyfarthfa a Pharc Gwledig Bryngarw fel Pyrth Darganfod.

Bydd y buddsoddiad yn cefnogi datblygu rhwydwaith ansawdd uchel o dir uchel, coetiroedd, gwarchodfeydd natur, parciau gwledig, afonydd, cronfeydd dŵr, camlesi a safleoedd treftadaeth.. Gan gysylltu gyda'n trefi a phentrefi, bydd y Pyrth Darganfod yn annog pobl i fod yn fwy egniol ac ymchwilio tirluniau hardd y Cymoedd.

Dywedodd y Cyng David Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd

“Mae hyn yn wych i Parc Bryn Bach a Blaenau Gwent. Mae'r parc yn boblogaidd tu hwnt gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd ac mae'r cyfle i ddatblygu a gwella'r cyfleusterau yno ymhellach yn newyddion gwych. Mae'n enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy adfywio. Roedd y safle unwaith yn dirlun a gafodd ei dinistrio gan fwyngloddio ond cafodd ei adfer a'i ail-eni fel hafan ar gyfer bywyd gwyllt ac adnoddau i bawb eu mwynhau."

Dros y misoedd nesaf bydd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn y Cymoedd, gan gydweithio gyda gweithredwyr y safle, yn asesu cryfder a gwendidau pob safle Porth Darganfod gyda golwg ar greu cynlluniau datblygu. Bydd y rhain yn sicrhau gwelliannau i ddarparu cyfleusterau ansawdd uchel fydd yn cyfoethogi profiad ymwelwyr a phreswylwyr o'r Cymoedd. Caiff y cynlluniau eu cefnogi gan y £7m o gyllid cyfalaf dros ddwy flynedd a gyhoeddwyd yn nrafft Gyllideb 2019-20 Llywodraeth Cymru.


Dywedodd Anthony Hughes, Cyfarwyddwr Hamdden Aneurin:

“Fel sefydliad gyda ffocws cymunedol, rydym yn angerddol am gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl drwy wella iechyd a llesiant corfforol a hefyd eu llesiant meddyliol a chymdeithasol drwy ein hamrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau. Ein gweledigaeth yw cefnogi a gwella bywyd y gymuned drwy Hamdden, Dysgu a Diwylliant. Rydym yn gyfrifol am reoli'r parc ac yn angerddol am yr amgylchedd a sicrhau fod pobl yn mwynhau'r awyr agored, p'un ai drwy weithgaredd goddefol fel cerdded neu weithgareddau antur mwy egnïol dan arweiniad hyfforddwyr medrus. Mae'n newyddion gwych y byddwn yn dod yn Borth Darganfod ac edrychwn ymlaen at gynllunio ar gyfer tyfu a gwella'r parc."


Dywedodd Alun Davies AC:

“Rwyf wrth fy modd y caiff Parc Bryn Bach ei ddatblygu fel Safle Porth ar gyfer cynllun Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Bydd y cynlluniau hyn ar gyfer datblygu yn sicrhau gwell cyfleusterau a chyfoethogi profiad ymwelwyr ar gyfer pobl leol a hefyd ymwelwyr i'n hardal. Rwyf i a fy nheulu yn ymweld yn rheolaidd â Pharc Bryn Bach ac yn cofio'n dda iawn am ei dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog. Mae'n gyfle i adeiladu ar y dreftadaeth honno, cysylltu'r Cymoedd fel rhanbarth ac annog mwy o bobl i ymchwilio ein hardal hardd. Mae angen i hyn yn awr gysylltu gyda'n gwaith i wella'r goffadwriaeth am hanes Nye Bevan a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol y buom yn ei ddathlu yn gynharach eleni."