Eminent Promotions - grant Kickstart

Mae Eminent Promotions yn cynnig cefnogaeth farchnata i fusnesau yng Nghymru, gan eu helpu gyda brandio, marchnata a chyngor ar werthiant..

O fewn tair blynedd ei nod yw bod yn cyflogi hyd at 7 o bobl yn y busnes, sy'n seiliedig ar hyn o bryd ym Mrynmawr.

Mae'n teimlo mai'r allwedd i lwyddiant yw adeiladu perthynas gref a pharhaus gyda chleientiaid. "Byddwn yn gweithio gyda nhw i ddatblygu eu marchnata, yn hytrach na chynnig datrysiadau unwaith yn unig," meddai.

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn busnes a diwydiant, mae Gareth yn teimlo y bydd ei brofiad busnes helaeth yn werthfawr i fusnesau newydd, a busnesau sydd wedi ennill eu plwyf, yng Nghymru.

Treuliodd 10 mlynedd gyda Dunlop mewn swyddi uwch ac mae hefyd wedi sefydlu gwahanol gwmnïau technoleg gwybodaeth. Yn ogystal â hyn, bu'n gweithio i wneuthurydd tâp pacio am fwy na 20 mlynedd, busnes y gwnaeth hefyd ei sefydlu.

"Yn aml iawn mae busnesau, yn arbennig busnesau newydd, yn gryf yn eu meysydd craidd ond nid oes ganddynt yr ystod ehangach o sgiliau. Mae hyn yn aml i'w weld yn eu gwerthiant a marchnata sydd, wrth gwrs, yn hanfodol. Gallwn gynnig cefnogaeth yn y maes hanfodol yma."

Mae Eminent yn cynnig gwasanaeth brandio llawn, yn ogystal â deunyddiau hyrwyddo. "Rydym yn arbenigo mewn rhoddion corfforaethol a chynnyrch hyrwyddo ansawdd uchel iawn," meddai Gareth. "Rydym wedi gwneud llawer iawn o ymchwil a gwyddom pa gynnyrch sydd orau mewn diwydiannau neilltuol."

Caiff nwyddau eu cyrchu o bob rhan o'r byd am y gost a'r ansawdd gorau posibl ac nid yw cynhyrchu niferoedd bach yn broblem.

Darparwyd grant £2000 Kickstart i helpu lansio'r busnes, a defnyddiwyd hyn i brynu technoleg gwybodaeth ac offer arall. Caiff y rhaglen Kickstart ei rhedeg ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac UK Steel Enterprise, sy'n is-gwmni i Tata Steel. Roedd BG Effect hefyd yn ganolog wrth ddarparu cymorth i gael y busnes newydd ar y gweill.

Dywedodd y Cyng. Dai Davies, Aelod Gweithrediaeth Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent:

"Drwy raglen grant Kickstart y Cyngor, mewn partneriaeth gyda UK Steel Enterprise, rydym yn parhau i gefnogi busnesau lleol p'un ai ydynt yn bodoli eisoes ai peidio. Dros y blynyddoedd cafodd nifer o fusnesau eu cefnogi'n llwyddiannus drwy'r cynllun ac mae hynny wedi helpu sefydlu busnesau newydd yn yr ardal neu fusnesau presennol i barhau i dyfu. Rwy'n falch iawn fod Eminent Promotions wedi defnyddio'r cynlluniau a'r gefnogaeth sydd ar gael drwy dîm adfywio'r cyngor i lansio ei fusnes. Dymunaf bob llwyddiant iddynt. P'un ai ydych yn fusnes newydd neu'n fusnes sy'n bodoli eisoes, cysylltwch â'n tîm adfywio ac edrych ar wefan Cyngor Blaenau Gwent i gael gwybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael i chi."

Ychwanegodd Gail Hannam o UK Steel Enterprise:

“Mae'n dda gweld y busnes newydd yma'n cael ei lansio ac rydym wrth ein bodd i fod wedi medru helpu. Mae'n ddi-os y bydd profiad busnes helaeth Gareth yn werthfawr iawn i gwmnïau yng Nghymru."