Eiriolaeth Oedolion - Gweledigaeth ar gyfer dinasyddion Gwent

Caiff dogfen bwysig gyda theitl Strategaeth Eiriolaeth Oedolion Gwent ei lansio heddiw, dydd Gwener 25 Hydref i gefnogi dinasyddion i gael eu lleisiau wedi'u clywed yng nghyswllt y cymorth gofal y gallant fod ei angen. Mae hyn yn ganlyniad cydweithio gan lawer o bartneriaid - yn cynnwys comisiynwyr awdurdodau lleol, mudiadau eiriolaeth a dinasyddion eu hunain.

Dyma'r tro cyntaf i strategaeth gomisiynu ranbarthol gael ei datblygu yn y ffordd hon yng Nghymru.

Dan arweinyddiaeth Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent, gyda chefnogaeth o Raglen Eiriolaeth Edau Aur Age Cymru, bu dull cydweithio llawn i ddatblygu'r strategaeth eiriolaeth, gan roi amser i gael ystod eang o sylwadau sydd oll wedi eu bwydo i'r ddogfen derfynol.

Ynghyd â'r strategaeth, mae un llinell gymorth sydd ar agor i'r rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal ac yn uniongyrchol i ddinasyddion eu hunain. Gyda chymorth grant drwy'r Gronfa Gofal Integredig, datblygwyd llinell gymorth  Mynediad i Eiriolaeth Gwent (GATA) wrth ochr y strategaeth a chaiff ei darparu gan ProMo-Cymru, elusen a menter gymdeithasol sy'n gweithio gyda'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus yng Nghymru i greu gwasanaethau gwell ar gyfer dinasyddion yn defnyddio technoleg ddigidol.

Caiff y llinell gymorth ffôn am ddim ei staffio gan dîm o Eiriolwyr Cynghori Llinell Gymorth proffesiynol medrus iawn, a gellir cysylltu â hi ar a 0808 8010566 ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth cysylltiedig ag eiriolaeth. Mae GATA ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cafodd y llinell gymorth ei hymestyn ar draws Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili a Sir Fynwy. (Bydd y trefniadau presennol ar gyfer Casnewydd, lle mai Canolfan Dewis ar gyfer Byw Annibynnol yw'r prif ddarparydd eiriolaeth, yn parhau).

Dywedodd Phil Robson, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent:

"Mae gwneud yn siŵr y gall pob dinesydd sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed yn hollbwysig os ydynt i wirioneddol drawsnewid a gwella ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i fod yn addas ar gyfer y 21ain ganrif. Gwyddom y gall y system gofal fod yn gymhleth iawn ac nad yw bob amser yn rhwydd i ddinasyddion ganfod a chael mynediad i'r wybodaeth a'r cymorth a all eu helpu yn y modd gorau. Mae gan eiriolaeth ran bwysig i'w chwarae i sicrhau y caiff pob llais ei glywed - a sylweddolwn fod hwn yn wasanaeth pwysig sydd angen iddo fod ar gael yn gyfartal, ble a phryd mae ei angen."