Ein Cymoedd Ein Dyfodol

Hoffem ni roi gwybod i chi am y cyfleoedd canlynol.

Rhwydwaith Entrepreneuriaid Cymar i Gymar
Mae rhwydwaith cymar i gymar wedi cael ei lansio yn y cymoedd i gefnogi arweinwyr busnes uchelgeisiol.

Mae’r Rhwydwaith Entrepreneuriaid Cymar i Gymar yn gynllun treialu newydd i arweinwyr busnesuchelgeisiol sy’n dymuno ysgogi twf cwmnïau, ymgymryd â rheoli newid yn effeithiol a gwireddu eu potensial llawn o ran arweinyddiaeth.

I gael eu hystyried i gymryd rhan yn y cynllun treialu, mae’n rhaid i unigolion fod mewn swydd
arweinyddiaeth uwch mewn busnes sefydledig yn rhanbarth Cymoedd y De ac mae’n rhaid iddyn nhw fod yn barod i roi o leiaf 12 diwrnod o’u hamser i’r Rhwydwaith, dros gyfnod o flwyddyn.

Mae’r Rhwydwaith Entrepreneuriaid Cymar i Gymar ar agor bellach i wneud Datganiad o Ddiddordeb tan 21 Mehefin 2019.

I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma

Cronfa Her yr Economi Sylfaenol
Mae Cronfa Her yr Economi Sylfaenol ar agor bellach ar gyfer ceisiadau. Mae £1.5 miliwn o gyllid ar gael yn benodol ar gyfer prosiectau yn y cymoedd, a bydd y gronfa’n cynnig hyd at £100,000 o gymorth ar gyfer prosiectau arbrofol i brofi’r ffordd orau y gall Llywodraeth Cymru helpu i ddatblygu a meithrin sylfeini ein heconomi leol, a’r bwriad yw rhannu’r dulliau llwyddiannus ledled Cymru.

Mae unrhyw sefydliad cyhoeddus, preifat neu drydydd sector a all ddangos ei fod yn weithredol yn yr economi sylfaenol mewn ffyrdd sydd o fudd i Gymru yn gymwys i wneud cais am y gronfa hon.

Ceir rhagor o wybodaeth am y gronfa a sut i wneud cais yma

Cymhorthfa Fusnes ym Margoed a gynhelir gan Hefin David AC
Ar 17 Mehefin bydd Hefin David AC yn cynnal cymhorthfa fusnes galw heibio yng nghanol tref Bargoed. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i entrepreneuriaid/ perchnogion busnesau bach lleol alw heibio a chwrdd â’u AC lleol i drafod syniadau, cyfleoedd a rhwystrau. Bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth hefyd yn bresennol  yn ystod amser cinio i siarad â busnesau am ei flaenoriaethau ar gyfer yr economi sylfaenol. Os bydd y gymhorthfa fusnes hon yn llwyddiannus, bydd y Dirprwy Weinidog yn gwahodd ACau eraill y Cymoedd i gyflwyno cymorthfeydd busnes yn eu hardaloedd nhw.

I gael rhagor o wybodaeth, cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol Trafod y Cymoedd.

Os oes gennych gwestiwn ynglŷn â’r wybodaeth uchod, anfonwch e-bost i  OurValleys@gov.wales

@TalkValleys #EinCymoedd #OurValleys