Effaith BG: Digwyddiad Pedwerydd Pen-blwydd Rhwydweithio Busnes

Dewch i Ddathlu'r Wythnos Fenter Fyd-eang

Mae Effaith BG eleni yn dathlu ei bedwerydd pen-blwydd yn darparu cymorth busnes a chyfleoedd rhwydweithio.

Mae'r digwyddiad rhwydweithio i fusnesau hefyd yn cyd-fynd gyda dathlu'r Wythnos Fenter Fyd-eang sydd yn anelu i gysylltu, cefnogi a thyfu'r ecosystem entrepreneuraidd ar draws y Deyrnas Unedig a dathlu cefnogi busnesau newydd Cymru.

Gyda dros 150 yn bresennol yn y digwyddiad diwethaf, mae Rhwydwaith Effaith yn ffordd berffaith i gysylltu'n anffurfiol gyda busnesau lleol eraill ac entrepreneuriaid am ddim. Bydd aelodau 'r timau Datblygu Economaidd ac Adfywio o Gyngor Blaenau Gwent a gwahanol sefydliadau partner eraill ar gael i roi cyngor a chymorth.

Ymweld â'r Parth Cymorth Busnes

Bydd gwybodaeth a chyngor gwerthfawr yn y digwyddiad ar y cynlluniau cymorth busnes sydd ar gael i chi yn ein 'Parth Busnes':

• Sefydlu Busnes
• Twf Busnes ac Arloesedd
• Safleoedd ac Adeiladau
• Cyflogaeth a Sgiliau
• Pecyn Cymorth Brexit a mwy!

Bydd y sefydliadau dilynol yn bresennol i roi cyngor ac ateb eich ymholiadau:

• Cyngor Blaenau Gwent - Uned Datblygu Economaidd, Anelu'n Uchel - Blaenau Gwent a Chaffael
• Banc Datblygu Cymru
• Business in Focus
• Busines Sense Associates
• Busnes Cymru
• Canolfan Byd Gwaith
• Cyflymu Cymru i Fusnesau
• Cymru Cyrchfan Fwyd
• Cymunedau am Waith (CfW/CfW+)
• Diwydiant Cymru
• Gyrfa Cymru
• Llywodraeth Cymru (Tîm Brexit/Sgiliau Hyblyg/Croeso Cymru)
• Natwest
• Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
• Sgiliau Bwyd Cymru
• Siambr Fasnach De Cymru
• Smart Money Cymru 
• Syniadau Mawr Cymru
• Thales - NDEC
• UK Steel Enterprise Ltd
• Y Gymraeg ar gyfer Busnes
• Ymddiriedolaeth y Tywysog

Yn y digwyddiad, bydd timau Adfywio a Datblygu Economaidd y Cyngor yn lansio nifer o gynlluniau newydd yn cynnwys:

Gwobrau Busnes 2020 Blaenau Gwent
Fframwaith Menter Blaenau Gwent
Datblygiadau Eiddo Diwydiannol a Swyddfeydd newydd ar gyfer 2020
Hyb Busnes Blaenau Gwent - Gorsaf Gofrestru

Bydd lluniaeth ar gael yn y digwyddiad. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad drwy glicio ar y ddolen ddilynol:
https://eventpilot.evolutive.co.uk/eventDetails.aspx?siteId=323&eventNo=149372

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
“Mae digwyddiadau Rhwydweithio Effaith BG wedi bod yn adnodd rhwydweithio gwerthfawr i fusnesau. Yn ogystal â bod yn gyfle i fusnesau eraill yn yr ardal i gwrdd gydag eraill ac o bosibl ddatblygu cyfleoedd, mae'n un o'r ychydig ffyrdd i gael gwybodaeth am y cymorth a'r cyngor sydd ar gael iddynt. Mae'r digwyddiadau hyn yn darparu ar gyfer busnesau newydd a busnesau presennol; p'un ai ydych yn edrych am gyngor i dyfu neu sefydlu busnes; gallwn ni ynghyd â'n sefydliadau partner ddarparu hyn. Rydym hefyd yn croesawu rhai o'r tu allan i'r ardal a hoffai wneud busnes ym Mlaenau Gwent.
"Byddwn yn lansio nifer o gynlluniau cyffrous ar y dydd. Bydd nifer o dimau o'n hadrannau Adfywio a Datblygu Economaidd yn bresennol i drafod cyfleoedd busnes. Byddwn yn annog busnesau ac entrepreneuriaid i gofrestru drwy'r ddolen a dod draw".