Edrych am ysbrydoliaeth?

Yn dilyn llwyddiant sioe y llynedd bydd Digwyddiad Ysbrydoli STEM 2019, a drefnwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Gyrfa Cymru, yn rhoi sylw i ddewis eang o lwybrau gyrfa sydd ar gael i ddisgyblion blwyddyn 9 ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).

Cynhelir y digwyddiad ar 7 Chwefror yng Nghanolfan Chwaraeon Glynebwy a bydd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol i ennyn diddordeb disgyblion Ysgolion Cyfun Abertyleri, Brynmawr, Ebwy Fawr a Tredegar.

Daeth tua 450 o myfyrwyr a 20 o gyflogwyr i'r Digwyddiad Ysbrydoli cyntaf yn 2018. Roedd yr adborth gan fusnesau, athrawon a myfyrwyr yn gadarnhaol tu hwnt, felly cytunodd y noddwyr i drefnu ail ddigwyddiad.

Eleni mae'r noddwyr yn hyderus y bydd mwy yn bresennol, yn arbennig gan y disgwylir busnesau a chyflogwyr ychwanegol. Bydd llawer o'r stondinau unwaith eto yn dangos gweithgareddau rhyngweithiol, gan y bu hyn yn llwyddiant mawr gyda'r disgyblion. Bydd y cysylltiadau rhwng pynciau STEM a diwydiant eu gweld yn glir drwy gydol y digwyddiad, fydd hefyd yn rhoi sylw i fanteision prentisiaeth fel amgen i Brifysgol.

Noddwyr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent

Gyrfa Cymru

Celtic Horizons

Linc

Tai Calon

United Welsh