Dyddiadau Sioe Deithiol Gymunedol - Glanhau Strydoedd

Rydym yn mynd n֧ôl mas i'r gymuned gyda chyfres o sioeau teithiol dilynol ac unwaith eto mae gennym ddiddordeb mewn cael barn pobl leol ar ba mor lân yw eu hardal leol.

Yr amserlen a gadarnhawyd o ddigwyddiadau sioe deithiol yw:

  • Dydd Mercher 23 Hydref Asda Brynmawr 4pm-6pm
  • Dydd Iau 24 Hydref Tesco Abertyleri 4pm-6pm
  • Dydd Mawrth 29 Hydref Tesco Glynebwy 1pm-3pm
  • Dydd Iau 31 Hydref Morrisons Glynebwy 4pm – 6pm
  • Dydd Gwener 1 Tachwedd Marchnad Glynebwy 10am – 1pm
  • Dydd Gwener 1 Tachwedd Canol Tref Tredegar 1pm-3pm
  • Dydd Llun 4 Tachwedd  Canol Tref Blaenau     10am – 1pm
  • Dydd Mawrth 5 Tachwedd Lidl Tredegar 4pm-6pm
  • Dydd Iau 7 Tachwedd Marchnad Abertyleri 10am – 1pm

Bydd arolwg ar gyfer adborth gan breswylwyr ar gael ar ein gwefan  www.blaenau-gwent.gov.uk neu drwy glicio ar y ddolen ddilynol https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=157132025257  ar gyfer y bobl hynny na all fynychu'r digwyddiadau.

Dywedodd y Cyng Garth Collier, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:

‘Rydym yn gwybod o'r adborth a gawn yn rheolaidd fod preswylwyr eisiau cymunedau glanach ac mae amgylchedd lleol y gallant ymfalchïo ynddo yn bwysig iddynt. Gyda hyn dan sylw, rydym bob amser yn ymroddedig i gwella glanweithdra'r ardal leol. Trefnwyd nifer o ddyddiadau sioeau teithiol a rydym yn annog preswylwyr i ddod i'n gweld a siarad gyda ni am yr ardal. Edrychaf ymlaen at gwrdd â phreswylwyr yn y digwyddiadau a chlywed yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud yn yr arolwg".