Dydd Sadwrn Cymdeithasol 2016: Codi ymwybyddiaeth o fentrau cymdeithasol yn Blaenau Gwent

Ers yr un cyntaf yn 2014, mae Dydd Sadwrn Cymdeithasol wedi cyrraedd miliynau o bobl trwy ddigwyddiadau lleol, sylw ar gyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol, Twitter a Facebook. Eleni, mae’r ymgyrch Gymreig yn cael ei threfnu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru unwaith eto, trwy brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru.

Un o brif amcanion Dydd Sadwrn Cymdeithasol yw cynyddu nifer y bobl sy’n prynu wrth fentrau cymdeithasol Cymru. Bydd gwefan yr ymgyrch yn arddangos busnesau o’r fath sy’n gwerthu amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau i’r cyhoedd.

Sut gallwch chi ein helpu ni i roi sylw i fentrau cymdeithasol lleol

Mae’r sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn ailddiffinio sut mae busnes yn gweithio, gan gyflogi dros 38,000 o bobl, a chefnogi 38,500 o wirfoddolwyr gweithredol, yn ogystal â chyfrannu o gwmpas £1.7 biliwn i’r economi genedlaethol. Rydym ni hefyd yn ymwybodol bod y gymdeithas yn elwa pan fyddwch yn prynu wrth fentrau cymdeithasol. Mae yna fentrau cymdeithasol yn eich ardal chi sy’n trawsnewid bywydau ac yn cryfhau’r gymuned leol, ac mae Dydd Sadwrn Cymdeithasol yn gyfle gwych i roi sylw i’r busnesau amgen hyn.

Ffyrdd i gymryd rhan

Gallwch gefnogi’r ymgyrch mewn sawl ffordd.

  • Awgrymwch fentrau cymdeithasol yn eich ardal leol i ni eu cynnwys yn yr ymgyrch – mae angen iddynt gynnig gwasanaeth i’r cyhoedd, ac agor ar Ddydd Sadwrn Cymdeithasol!
  • Gadewch i Ddydd Sadwrn Cymdeithasol reoli eich gwefan a’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gyda baneri digidol a ‘twibbons’
  • Trefnwch fod Cynghorwyr a Swyddogion o’r Cyngor sydd â diddordeb mewn adfywio, caffael a phartneriaethau yn ymweld â mentrau cymdeithasol lleol
  • Codwch ymwybyddiaeth o Ddydd Sadwrn Cymdeithasol ar sianeli cyfathrebu eich Cyngor
  • Trefnwch farchnad/ddigwyddiad yn eich ardal sy’n dod â mentrau cymdeithasol sy’n delio â chwsmeriaid ynghyd, er mwyn gallu gwerthu i’r cyhoedd

Beth bynnag rydych chi’n penderfynu ei wneud, cofiwch roi gwybod i ni fel bod modd i ni ei gynnwys yn ein briffiau i’r wasg ac ar ein gwefan, sadwrncymdeithasol.cymru. Cysylltwch â thîm marchnata Canolfan Cydweithredol Cymru a fydd yn ddigon parod i helpu: e-bost events@wales.coop neu ffôn: 0300 111 5050.

Gallwch ddilyn #SocialSaturdayWales16 ar Twitter yn ogystal.