Dweud eich barn ar gynlluniau teithio llesol Blaenau Gwent


Fel rhan o ymgynghoriad ffurfiol mae Cyngor Blaenau Gwent yn dymuno gwybod lle credwch y gellid gwneud gwelliannau i rwydwaith presennol Teithio Llesol a lle gallai fod yn bosibl ychwanegu llwybrau newydd.

Fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol fapio eu llwybrau presennol a dangos lle gellid gwneud gwelliannau ac ychwanegu llwybrau newydd fel rhan o'i Fap Rhwydwaith Integredig.

Bydd ymgynghoriad Blaenau Gwent yn rhedeg am 12 wythnos yn dechrau ar 17 Ebrill gan roi cyfle i bobl leol roi sylwadau ar y Map Rhwydwaith Integredig a gwneud awgrymiadau a allai helpu llunio darpariaeth teithio llesol yr ardal yn y dyfodol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar gwefan y Cyngor  www.blaenau-gwent.gov.uk 
https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=152397470565

Mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Gallwch edrych ar y llwybrau ar-lein a rhoi adborth yn defnyddio'r holiadur ar-lein ar feysydd ar gyfer eu gwella neu drwy gynnig llwybrau newydd neu wella llwybrau presennol.

Ar ddiwedd y cyfnod ymgysylltu, bydd y Cyngor yn dadansoddi'r canlyniadau a sicrhau y cânt eu hystyried wrth ddrafftio'r cynllun terfynol a gyflwynir i Lywodraeth Cymru yn Awst 2018.

Os caiff ei dderbyn, gobeithir y bydd Blaenau Gwent yn sicrhau arian o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol i ddatblygu a dylunio elfennau o'r Map Rhwydwaith Integredig ar gyfer ei weithredu yn y dyfodol.