Dweud eich barn ar gynigion cyllideb Cyngor Blaenau Gwent ar gyfer 2017/18

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn dymuno ymgysylltu gyda phobl leol am gynigion ar gyfer arbedion ar gyfer ei Gyllideb 2017/18.

Gallwch ddweud eich barn drwy lenwi arolwg ar-lein neu drwy fynychu un o'r pedwar digwyddiad sydd ar y gweill o amgylch y fwrdeisdref sirol ym mis Tachwedd. Bydd gwybodaeth am sut y caiff y Cyngor ei gyllido a manylion y cynigion arbedion penodol a gyflwynir i bobl roi sylwadau arnynt.

Derbyniodd y Cyngor newyddion am ei setliad ariannol o Lywodraeth Cymru ac mae'n wynebu gostyngiad o 0.5% yn ei grant cymorth refeniw. Mae'r gostyngiad hwn yn cyfrannu at gyfanswm arbedion o £6 miliwn sydd angen eu gwneud.

Mae'r rhaglen ymgysylltu gyhoeddus 'Gadewch i ni Siarad' yn dechrau yng Nglynebwy ddydd Gwener 18 Tachwedd.

Y digwyddiadau galw heibio yw:

·         Dydd Gwener 18 Tachwedd – 10am i 2pm, Marchnad Glynebwy

·         Dydd Iau 24 Tachwedd – 10am i 2pm, Marchnad Abertyleri

·         Dydd Gwener 25 Tachwedd – 10am i 2pm, Canolfan Siopa Canol Tref Tredegar (tu allan i Home Bargains)

·         Dydd Sadwrn 26 Tachwedd – 10am i 1pm, Marchnad Brynmawr

Bydd hefyd gyfle i lenwi arolwg ar-lein o 18 Tachwedd.

Mae rhaglen 'Gadewch i ni Siarad' yn parhau ymrwymiad y Cyngor i fod yn fwy rhagweithiol wrth ymgysylltu gyda phobl leol am yr heriau ariannol i ddod a'r penderfyniadau anodd sy'n parhau i gael eu gwneud am gyllido a darparu gwasanaethau. Bydd cynrychiolwyr y Cyngor a Chynghorwyr yn bresennol i ateb cwestiynau.

Gwneir y penderfyniad ffurfiol am arbedion gan gynghorau pan fyddant yn ystyried gosod y Gyllideb mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ym mis Ionawr.

Dywedodd David White, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol:

 “Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd i gael mantolen gytbwys. Rydym yn awyddus i ganfod beth yw blaenoriaethau ein preswylwyr, fel y gallwn wneud penderfynaidau sy'n adlewyrchu anghenion y rhai sy'n byw ac yn gweitho ym Mlaenau Gwent. Fel bob amser, byddwn yn gweithio'n galed i ddiogelu gwasanaethau hanfodol a gofalu am y rhai yn ein cymunedau sydd fwyaf o angen ein help.

“Gall cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn fod mor rhwydd â llenwi'r arolwg neu fynychu un o'r digwyddiadau galw heibio a gynhelir ym mhob rhan o'r fwrdeisdref. Mae'n gyfle gwych i gymryd rhan a helpu i lunio dyfodol Blaenau Gwent.”

I gael mynediad i'r wybodaeth a'r arolwg ar-lein ewch i  www.blaenau-gwent.gov.uk a dilyn y ddolen o'r dudalen flaen. Bydd yr arolwg ar gael o 18 Tachwedd.