Dweud eich Barn ar Gynigion Cyllideb Blaenau Gwent ar gyfer 2018-19

Gallwch ddweud eich barn drwy lenwi ein harolwg ar-lein neu drwy fynychu un o'n digwyddiadau her cyllideb a gynhelir o amgylch y fwrdeistref ym mis Tachwedd. Bydd gwybodaeth am sut y caiff y Cyngor ei gyllido a manylion cynigion am arbedion penodol a gyflwynir i bobl roi sylwadau arnynt.

https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=151059134041

Mae'r cyngor wedi derbyn ei setliad ariannol darpariaethol gan Lywodraeth Cymru ac mae'n wynebu gostyngiad o 1% yn ei grant cymorth refeniw. Mae'r gostyngiad hwn yn golygu fod yn rhaid i'r Cyngor ganfod gwerth £5.8 miliwn o arbedion yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd rhaglen Her Cyllideb Blaenau Gwent yn cychwyn yn Nhredegar 15 Tachwedd a dangosir y calendr llawn o ddigwyddiadau islaw:

Dyddiad

Lleoliad

Amser

15 Tachwedd

Lidl Tredegar

5pm – 7pm

17 Tachwedd

Marchnad Glynebwy

10am – 1pm

17 Tachwedd

Tesco Abertyleri

5pm – 7pm

20 Tachwedd

Asda Brynmawr

10am – 1pm

22 Tachwedd

Morrisons Glynebwy

5pm – 7pm

23 Tachwedd

Marchnad Abertyleri

10am – 1pm

23 Tachwedd

Asda Brynmawr

5pm – 7pm

24 Tachwedd

Canolfan Siopa Tredegar

10am – 1pm

Mae'r rhaglen ymgysylltu yn parhau â'r ymrwymiad i fod yn fwy rhagweithiol wrth gysylltu gyda phobl leol am yr heriau ariannol i ddod a'r penderfyniadau anodd fydd yn rhaid eu gwneud am gyllido a darparu gwasanaethau.

Caiff y penderfyniad ffurfioll am arbedion ei wneud gan Gynghorwyr pan fyddant yn ystyried gosod y gyllideb mewn cyfarfod llawn o'r Cyngor ym mis Ionawr 2018.

https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=151059134041

http://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/her-cyllideb-blaenau-gwent/