Dros hanner miliwn o bunnau ar gyfer llwybrau Teithio Llesol

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi croesawu'r cyhoeddiad o dros hanner miliwn o bunnau mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru i wella llwybrau Teithio Llesol.

Teithio llesol yw cerdded, rhedeg neu seiclo ar deithiau bob dydd megis i'r gwaith, ysgol neu i'r siopau. Cyhoeddwyd yr wythnos yma y caiff mwy na £1.2 miliwn ei ddosbarthu i gynlluniau ar draws Gwent fel rhan o hwb £14.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Ym Mlaenau Gwent bydd ffordd teithio llesol rhannu defnydd o Garnlydan i Frynmawr yn derbyn £295,000 ac un arall yn arwain o Ysbyty Glynebwy yn cael £185,000, gyda £55,000 ar gael ar gyfer gwaith cysylltiedig. Caiff y llwybrau wyneb newydd i gyd a gwella arwyddion i helpu annog mwy o ddefnydd o'r llwybrau gan breswylwyr.

Fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol fapio eu llwybrau presennol a dangos lle gellir gwneud gwelliannau ac ychwanegu llwybrau newydd fel rhan o'i Fap Rhwydwaith Integredig. Ymgynghorodd Blaenau Gwent gyda phobl leol am hyn drwy arolwg ar-lein a nifer o sioeau teithio, gan roi cyfle iddynt helpu llunio darpariaeth teithio llesol yr ardal yn y dyfodol. Defnyddiwyd yr adborth yma i ddatblygu'r cais am gyllid.

Dywedodd Richard Crook, Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cyngor ar gyfer Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol:

"Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant ein cynnig i wella llwybrau Teithio Llesol ym Mlaenau Gwent a fedrwn ni ddim aros i ddechrau ar y gwaith! Fel Cyngor rydym yn angerddol am weithio gyda'n partneriaid i wella iechyd a llesiant ein preswylwyr a gofalu am yr amgylchedd ac mae'r cyllid hwn yn rhoi cyfle gwych i ni gario ymlaen gyda'r gwaith pwysig yma. Gobeithio y byddwn yn gweld mwy o bobl yn rhoi'r gorau i'r car yn y dyfodol a cherdded a seiclo i ble maent eisiau mynd."