Wrth nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil, 21 Mawrth 2025, rydym yn dymuno taflu goleuni ar ymgyrch ‘Heart Work’ Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr. Wedi'i hariannu gan dîm Cydlyniad Cymunedol Gorllewin Gwent, cododd yr ysgol ymwybyddiaeth o ragfarn a gwahaniaethu hiliol trwy nifer o brosiectau.
Dechreuodd y prosiect ym mis Hydref 2024, i ddathlu a choffáu Hanes Pobl Dduon. Cynyddodd yr ysgol ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hiliaeth a rhagfarn ymhlith aelodau'r ysgol a'r gymuned trwy amrywiaeth o weithgareddau gydol y mis. Cyflwynodd disgyblion ysgol wasanaeth i gymheiriaid a oedd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ddiwylliannol, yn dathlu cysylltiadau lleol â Blaenau Gwent fel Paul Robeson ynghyd ag unigolion arwyddocaol eraill sydd wedi darparu effaith a chyfraniadau byd-eang. Gweithdai eraill y bu disgyblion yn cymryd rhan ynddynt drwy gydol y mis yn cynnwys creu mygydau wedi’u hysbrydoli gan Affrica, ‘sgwrs bwrdd’ gwrth-hiliaeth Dydd Mawrth: Sut i Fod yn Gynghreiriad, paentio arlliwiau croen amrywiol wedi’u hysbrydoli gan waith Kehinde Wiley, ynghyd â gweithdy clai lle bu disgyblion yn creu pabïau clai, a oedd yn caniatáu iddynt gysylltu â hanes ac anrhydeddu’r aberth a wnaed gan unigolion. Roedd hyn yn cynrychioli thema’r cofio yn ein hanes.
Er mwyn sicrhau llais y disgybl a’r cyfle i arwain, bu’r ysgol yn cydweithio â’i myfyrwyr-lysgenhadon a grwpiau ysgol megis amrywiaeth ddiwylliannol, hawliau’r plentyn a grwpiau gwrth-fwlio drwy gydol y prosiect hwn.
Creodd yr ysgol Gert Celf symudol pwrpasol fel gorsaf adnoddau gweithredol i gynnig gweithdy rhyngweithiol yn yr ysgol ac yn y gymuned.
Yn ystod eu stondin grefftau Gaeaf, roedd myfyrwyr mewn rolau arwain yn gallu cymryd rhan mewn sgyrsiau gydag ymwelwyr, ateb cwestiynau a rhannu gwybodaeth am y crefftau oedd ar gael a’u gwreiddiau diwylliannol oedd ag ystyr symbolaidd dwfn. Rhannodd myfyrwyr hefyd wybodaeth am yr hanes a'r symbolaeth y tu ôl i'r crefftau, gan feithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddiwylliannau eraill a'u galluogodd i gymryd safiad tyner yn erbyn hiliaeth.
Er bod cymuned yr ysgol bob amser wedi ymgorffori gwerthoedd Cymreig o ysbryd cymunedol a charedigrwydd, roedd yn bwysig iddynt agor eu drysau i aelodau o'r gymuned nad oeddent efallai wedi cael profiad uniongyrchol o ethos yr ysgol. Croesawodd Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr y gymuned leol i’w Strafagansa Gaeaf, a welodd ddisgyblion yn cynnig cymorth i ymwelwyr wrth greu celf a chrefft sy’n cael eu dathlu ledled y byd. Aeth disgyblion a staff allan i’r gymuned hefyd drwy ymweld â Chartref Gofal Bank House a chynnal digwyddiad llythrennedd a chrefft yn y Ganolfan Chwaraeon i rieni a phlant bach, lle bu iddynt roi cyflwyniad tyner i’r cysyniad o wrth-hiliaeth mewn ffordd gyfeillgar a chreadigol.
Cefnogodd y prosiectau tua 300 o aelodau'r gymuned trwy amrywiol ddigwyddiadau. Roedd pob gweithdy yn canolbwyntio ar werthoedd cyffredinol fel tegwch, cyfiawnder, empathi a pharch. Trwy grefftio, roedd yr ysgol yn gallu amlygu'r pethau sy'n ein cysylltu fel bodau dynol, gwaeth beth fo'n gefndir. O adborth cadarnhaol a diddordeb a dderbyniwyd gan y gymuned, mae'r ysgol bellach yn gweithio ar ddatblygu'r prosiect hwn ymhellach.
Yn fwyaf diweddar, mae myfyrwyr wedi gweithio gyda'r artist Matt Joyce yn barod ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Ffoaduriaid sy'n cael ei choffau ar 16 – 22 Mehefin 2025. Yn ystod y gwaith hwn, cyflwynwyd disgyblion i grefft animeiddio trwy greu GIF. Cafodd y disgyblion hefyd gyfle i greu eu motiffau eu hunain (meme addurniadol) i hybu eu ‘hagwedd’ ar wrth-hiliaeth drwy gydol y flwyddyn
Antonia Lane – Dywedodd arweinydd y prosiect yn Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr, fod y prosiect wedi cadarnhau eu hymrwymiad i greu diwylliant gwrth-hiliaeth.
‘Mae wedi amlygu sut y gallwch frwydro yn erbyn anghyfiawnder mewn ffordd dyner a meithringar heb ddieithrio pobl. Mae wedi ein harwain i ganolbwyntio ar ddelfrydau cyffredinol fel goddefgarwch a pharch. Daeth ein gweithdai yn fwy na dim ond lle i greu a phrynu crefftau; trawsnewidiodd yn gyfleoedd ar gyfer cyfnewid diwylliannol. Mae wedi dyrchafu ein safle yn y gymuned fel lloches i’r rhai sy’n ceisio noddfa, bod Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn lle cynhwysol i bawb ac wedi amlygu y gall cymunedau ddefnyddio mynegiant creadigol i hyrwyddo gwrth-hiliaeth a dealltwriaeth ryngddiwylliannol’.