Diweddariad Storm Dennis

Buom yng nghymunedau Llanhiledd a Cwm yr wythnos hon yn cefnogi preswylwyr yr effeithiodd y llifogydd arnynt drwy ein Canolfannau Cymorth. Rydym yn parhau i gefnogi pobl gyda chyngor ariannol, tai, celfi ac anghenion gofal cymdeithasol.

Bydd y Ganolfan Cymorth yn Hyb Dechrau'n Deg Cwm yn cau am 4pm heddiw (20 Chwefror). Os bydd argyfwng dros y penwythnos, cysylltwch â rhif allan o oriau y Cyngor ar 01495 311556.

Bydd y Ganolfan Cymorth yn Sefydliad Llanhiledd ar agor rhwng 12.30pm a 2pm i ddarparu prydau ar gyfer y gymuned ac i breswylwyr gasglu cyfraniadau, Eto, ar gyfer argyfyngau tu allan i'r amserau hyn cysylltwch â 01495 311556.

Rydym yn dal i dderbyn cyfraniadau o gelfi a nwyddau gwyn, fodd bynnag bydd hyn nawr yn ailddechrau o ddydd Llun 24 Chwefror. Cânt eu dosbarthu ar sail blaenoriaeth. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu a dangos cefnogaeth hyd yma.

Rhifau cyswllt ar gyfer y penwythnos:

Mae gwasanaeth argyfwng allan-o-oriau y Cyngor ar gael yn 01495 311556
Mae Tîm Dyletswydd Argyfwng Gwasanaethau Cymdeithasol ar gael yn 0800 328 4432
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar drafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn https://crowd.in/I4mNyk
Mae'r cyngor iechyd diweddaraf ar gael yn GIG Cymru https://crowd.in/GAD7UU
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar y tywydd ar gael yn https://crowd.in/yeFYDN