Disgyblion ysgol yn cael blas ar ddyfodol iachach

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Gymunedol Willowtown yng Nglynebwy wedi bod yn darganfod tarddiad eu bwyd ac yn blasu llysiau a dyfwyd yn lleol. Mae hyn yn rhan o fenter ledled Cymru sydd wedi'i chynllunio i hyrwyddo bwyta'n iach, cefnogi ffermwyr yng Nghymru ac annog dewisiadau iachach o oedran cynnar.

Mae'r ysgol yn un o bum ysgol gynradd ym Mlaenau Gwent sy'n cymryd rhan yn rhaglen 'Growing Healthy Futures' Castell Howell Foods. Mae'r rhaglen yn cysylltu tyfwyr, ysgolion, darparwyr arlwyo a chymunedau yng Nghymru i geisio cynyddu faint o gynnyrch organig lleol sy'n cael ei ddefnyddio mewn prydau ysgol ac i hyrwyddo ffordd iach o fyw.

Fel rhan o'r rhaglen hon, mae'r ymgyrch 'Superhero Food' yn ymgyrch hwyliog a chynhwysol i helpu disgyblion ysgolion cynradd i gofleidio pŵer bwyta'n iach trwy ddarganfod, gweithgareddau a chydweithio. Wedi'i chyflwyno gan Steff Evans o Castell Howell, cyn-chwaraewr rygbi Y Scarlets a Chymru, darganfu'r plant sut mae'r tri llysieuyn archarwr - moron, brocoli a blodfresych - yn tanio ein cyrff trwy ddarparu fitaminau allweddol.

Fel rhan o'r sesiwn, dysgodd y disgyblion am y daith y mae bwyd yn ei chymryd o'r fferm i'r plât, manteision bwyta llysiau ffres a'r rôl bwysig y mae ffermwyr yn ei chwarae wrth gynhyrchu bwyd iach a chynaliadwy.

Dywedodd Steff Evans:

“Roedd hi’n ddiwrnod gwych yn Ysgol Gynradd Willowtown, ac roedd hi’n braf gweld pa mor frwdfrydig a chysylltiedig oedd y plant drwy gydol y sesiynau. Yr hyn a oedd yn arbennig o galonogol oedd gweld y cyffro hwnnw’n parhau yn y neuadd fwyta, lle’r oedd disgyblion yn awyddus i roi cynnig ar lysiau amrwd a rhai wedi’u coginio. Nod y fenter hon yw helpu plant i ddatblygu perthynas gadarnhaol â bwyd drwy ddeall o ble mae’n dod, archwilio manteision cynnyrch ffres, ac amlygu’r prydau ysgol cytbwys a maethlon sydd ar gael iddynt bob dydd.”

"Mae’n hynod werth chweil gweld plant yn camu allan o’u parthau cysur, yn rhoi cynnig ar fwydydd newydd ac yn dysgu mwy am y daith o’r fferm i’r plât. Gall helpu pobl ifanc i feithrin arferion iach o oedran cynnar gael effaith barhaol, ac mae rhaglenni fel hon yn chwarae rhan bwysig wrth wneud bwyta’n iach yn rhywbeth pleserus a hygyrch.”

Mae Growing Healthy Futures yn adeiladu ar lwyddiant rhaglen Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, sydd wedi cynyddu’n sylweddol faint o lysiau organig a dyfir yng Nghymru sy’n cyrraedd platiau cinio ysgol ar draws y wlad. Mae’r fenter yn cefnogi ffermwyr a thyfwyr lleol tra’n helpu plant i gael mynediad at gynhwysion ffres a maethlon drwy brydau ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae hon yn fenter wych; mae rhoi cyfle i blant ddysgu mwy am fwyd iach, blasu cynnyrch lleol ffres a chwrdd â phobl ysbrydoledig sy'n esiamplau da – fel Steff Evans – oll yn helpu i wneud bwyta'n iach yn rhywbeth byw a pherthnasol iddyn nhw. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid a chymunedau i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant ac i leihau anghydraddoldebau iechyd, ac mae rhaglenni fel hon yn cefnogi'r genhadaeth honno."

Ar hyn o bryd, mae Castell Howell Foods yn cyflenwi cynhwysion ar gyfer amcangyfrif o 850,000 o brydau ysgol a choleg bob wythnos, ac mae wedi datblygu Growing Healthy Futures i helpu i greu cadwyni cyflenwi bwyd gwydn, cefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru a gwella mynediad at fwyd iach, lleol ac organig.

Dywedodd Rebecca Hughes, Arweinydd Ymgysylltu â Theuluoedd a’r Gymuned yn yr ysgol:

“Mae iechyd a llesiant ein disgyblion wrth wraidd popeth a wnawn, ac mae llythrennedd bwyd yn edau aur sy’n rhedeg drwy ein cwricwlwm. Rydym mor gyffrous i fod yn rhan o brosiect Welsh Veg in Schools, ac roedd cael Steff Evans i ymuno â ni i gynnal gwasanaeth difyr a chynlluniau gwersi ysbrydoledig yn rhoi cyfle i’n plant nid yn unig ddeall pwysigrwydd bwyta llysiau, ond hefyd i archwilio, trafod a dathlu bwyd ffres ac iach.

“Roedd ein ffreutur yn llawn egni a chyffro wrth i bob dysgwr gael cyfle i ychwanegu moron, brocoli a blodfresych ffres at eu pryd bwyd. Roedd gweld plant yn rhoi cynnig ar lysiau ac yn siarad amdanynt mor frwdfrydig yn beth gwych.

Rydym yn benderfynol o gynnal y momentwm hwnnw y tu hwnt i heddiw. Byddwn yn cynnig amrywiaeth o’r llysiau hyn yn amrwd ar ein troli byrbrydau bob dydd, yn cynnal sesiynau coginio sy’n cynnwys ryseitiau sy’n dathlu’r llysiau hyn, ac yn cynllunio sesiynau blasu yn y dyfodol fel y gall ein plant barhau i archwilio blasau, gweadau a ffyrdd newydd o fwynhau cynnyrch ffres.”

Mae’r rhaglen yn dod â phartneriaid ynghyd – gan gynnwys tyfwyr, awdurdodau lleol a chyfanwerthwyr ar draws Cymru – i gryfhau cysylltiadau rhwng sector garddwriaeth Cymru a lleoliadau addysg er mwyn cefnogi cadwyni cyflenwi bwyd mwy cynaliadwy. Sefydlwyd Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion gan Synnwyr Bwyd Cymru, Lantra a Castell Howell, ac fe’i hariennir gan Gronfa Her Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.