Disgyblion yn ymweld â safle newydd

Heddiw bu grŵp o ddisgyblion fydd yn mynychu'r ysgol newydd ar ymweliad i'r safle adeiladu yng nghwmni Pennaeth Interim Cymuned Ddysgu Abertyleri, John Wilson a’r Is-bennaeth Kate Olsen; Aelod Gweithredol y Cyngor dros Addysg, y Cynghorydd Clive Meredith; aelodau ward Six Bells y Cyng Denzil Hancock a'r Cyng Mark Holland a Rob Williams, Cyfarwyddwr Ardal Morgan Sindall.

Daw'r ysgol â disgyblion ynghyd o gampysau Bryngwyn a Stryd y Frenhines - y ddau'n rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri - a bydd yn rhoi amgylchedd dysgu modern, addas i'r diben, ar gyfer plant a phobl ifanc. Adeiledir yr ysgol gan y contractwr Morgan Sindall.

Mae'r gwaith o adeiladu'r ysgol yn awr wedi dechrau yn dilyn gwaith llwyddiannus yn dargyfeirio prif garthffos. Mae'r sylfeini wedi eu cwblhau a'r ffrâm ddur bellach yn ei lle.
Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn mewn cyfleusterau addysg yn yr ardal yn bosibl oherwydd Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif, sy'n darparu cyllid ar y cyd ar gyfer prosiectau cyfalaf ysgolion gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Blaenau Gwent.

Disgwylir gorffen yr ysgol yn haf 2019, yn dilyn peth oedi annisgwyl; yn bennaf oherwydd darganfod carthffos Dŵr Cymru yr oedd yn rhaid ei dargyfeirio cyn y gallai'r gwaith gychwyn.

Dywedodd y Cyng Clive Meredith, Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor:

"Mae'n wych bod ar y safle yn Six Bells heddiw i weld cynnydd yr adeilad ysgol newydd cyffrous yma, darn olaf ein prosiectau Band A Ysgolion y 21ain Ganrif. Bydd yr ysgol yn rhoi'r cyfleusterau addysgol modern o'r radd flaenaf y mae plant a phobl ifanc yn yr ardal hon yn eu haeddu.

"Mae hyn yn bosibl oherwydd gweithio partneriaeth rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy ei rhaglen arweiniol i wella'r stad ysgolion ledled Cymru. Mae'r Cyngor yn awr yn edrych ymlaen wrth baratoi cynlluniau ar gyfer prosiectau Band B, sydd hefyd yn cynnwys adeiladu ysgol gynradd newydd yn Glynebwy a thwf addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o'r fwrdeistref sirol."

Dywedodd John Wilson, Pennaeth Interim:

"Mae'n gyffrous iawn i'r holl gymuned gymryd rhan yn y prosiect fydd yn cyflwyno cynifer o gyfleoedd i'w phobl ifanc."

Dywedodd Robert Williams, Cyfarwyddwr Ardal Morgan Sindall: “Roeddem yn falch iawn i groesawu’r disgyblion, cynghorwyr ac athrawon ar y safle heddiw i’w diweddaru ar y gwaith o adeiladu’r ysgol. Mae’n wych gweithio ar y pro