Dirwyo tipio anghyfreithlon

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi erlyn dau o bobl yn llwyddiannus am dipio anghyfreithlon ac wedi rhoi Hysbysiadau Cosb Sefydlog i dri arall.

Aed â Michael Thomas i'r llys ar ôl iddo gael ei weld yn dympio bagiau sbwriel tu allan i'r Ganolfan Ddinesig yng Nglynebwy ym mis Gorffennaf. Gwelodd aelod o staff ef a chafodd ei gyfweld yn dilyn gwiriad DVLA ar ei gerbyd. Cyfaddefodd Thorne, o Pen-y-Crug, Rasa, y drosedd yn y cyfweliad a dywedodd iddo adael y gwastraff gan nad oedd wedi ei gasglu o'i gartref. Cafodd ddirwy o £200 gan ynadon a'i orchymyn i dalu cyfraniad tuag at gostau o £130 ynghyd â gordal dioddefwr o £30.

Yr ail erlyniad oedd Michelle Higgins a gafodd ei herlyn am dipio anghyfreithlon tu allan i uned ddiwydiannol yn Stad Ddiwydiannol Rasa yng Nglynebwy. Gwelodd swyddogion gorfodaeth amgylcheddol ohebiaeth yn y gwastraff a'i holrhain i Higgins, a gyfaddefodd yn ddiweddarach iddi adael y gwastraff ar ôl clywed na fedrai ddefnyddio canolfan ailgylchu Cwm Newydd gan nad oedd wedi trefnu trwydded fan ymlaen llaw. Cafodd Higgins, o Llwyn Dic Penderyn, Merthyr Tudful, ddirwy o £120 gan ynadon gyda chyfraniad o £130 at gostau a gordal dioddefwr o £30.

Mae'r Cyngor hefyd wedi rhoi Hysbysiadau Cosb Sefydlog am dair trosedd o dipio anghyfreithlon yn y gwiath dŵr yn Aber-bîg, ochr Mynwent Blaenau ac yn Stad Ddiwydiannol Cwm Draw. Ar yr holl achlysuron hyn roedd deiliaid tai wedi talu am symud gwastraff o'u cartrefi ond heb wneud y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau fod gan y rhai yr oeddent wedi talu iddynt awdurdod i'w gario a gwaredu arno. Deiliad tai sydd wedyn yn atebol os caiff ei dipio'n anghyfreithlon.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor Blaenau Gwent:
"Mae tipio anghyfreithlon yn ddolur llygad yn ein tirwedd fendigedig ac mae'n costio arian i ni ei lanhau. Nid oes unrhyw esgus dros ddympio gwastraff yn anghyfreithlon ac mae'r erlyniadau hyn yn rhybudd y byddwn yn ymchwilio a lle gallwn sicrhau'r dystiolaeth, byddwn bob amser yn ceisio erlyn mewn llys neu roi Hysbysiad Cosb Sefydlog. Dylai hyn hefyd atgoffa pobl nad yw talu i rywun symud eich gwastraff yn syml - dylech wneud y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau fod y bobl hyn, sydd â llawer ohonynt yn hysbysebu eu hunain ar y cyfryngau cymdeithasol, yn gweithredu'n gyfreithiol oherwydd os caiff gwastraff ei ddympio, yna'n anffodus gallech fod yn talu'r pris eich hunan!"