Diolch am eich ymdrechion ailgylchu

Dengys yr ymchwil ddiweddaraf gan Ailgylchu dros Gymru fod cartrefi yng Nghymru yn ailgylchu mwy nag erioed, gyda dros 90% o bobl yn awr yn ailgylchu deunyddiau tebyg i boteli diodydd plastig, poteli nwyddau ymolchi a siampŵ, a gwastraff bwyd.

Mae dros hanner cartrefi Cymru yn ailgylchu mwy nag oeddent flwyddyn yn ôl gyda chwarter ohonynt yn nodi pryderon am yr amgylchedd fel y prif reswm dros wneud hynny ac eraill yn ei briodoli i fwy o ymwybyddiaeth o'r hyn y gellir ei ailgylchu.

Mae beth a sut yr ailgylchwn yn bwysig iawn. Mae ailgylchu eitem yn hytrach na'i thaflu i'r bin sbwriel cyffredinol yn golygu y caiff ei thrin yn y ffordd fwyaf cyfeillgar i'r amgylchedd, gan gadw deunyddiau mewn defnydd ac allan o'r amgylchedd.

Mae ailgylchu ym Mlaenau Gwent yn gwneud gwahaniaeth mawr. Y llynedd cyrhaeddodd y Cyngor darged ailgylchu Llywodraeth Cymru o 58%. Gwelodd y Cyngor gynnydd yn faint o wastraff mae preswylwyr yn ei ailgylchu ac mae felly'n rhagweld y bydd yn cyrraedd targed eleni.

Casglodd y Cyngor dros 500 o goed yn dilyn cyfnod y Nadolig. Caiff y coed eu hailgylchu ac felly byddant yn cefnogi'r Cyngor wrth gyflawni ei dargedau ailgylchu. Mae hyn yn gynnydd o tua 35% yn nifer y coed a gasglwyd y flwyddyn flaenorol.

Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu hymdrechion ailgylchu a Chriwiau Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Blaenau Gwent am eu gwaith caled dros y cyfnod prysur hwn.

Mae mwy o wybodaeth am wastraff ac ailgylchu ym Mlaenau Gwent ar gael yn www.blaenau-gwent.gov.uk