Diogelu plant ac oedolion bregus

Diogelu Plant Bregus

Yn ystod yr argyfwng yma rydym yn dal i fod yma i warchod y mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Yn anffodus mae camdriniaeth yn dal i ddigwydd bob dydd.

Mae llawer o fathau o gamdriniaeth, yn cynnwys:

• Esgeulustod
• Camdriniaeth corfforol
• Camdriniaeth rhywiol
• Camdriniaeth emosiynol

Mae camdriniaeth domestig hefyd yn cael effaith niweidiol ar lesiant plentyn.
Os ydych yn amau fod plentyn yn cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, neu fod plentyn yn dweud wrthych eu bod yn cael eu cam-drin, cysylltwch â ni ar 01495 315700 neu’r tîm cyswllt argyfwng ar 0800 328 4432. Ffoniwch 999 os yw’r plentyn mewn risg uniongyrchol o niwed.

Diogelu Oedolion Bregus

Yn ystod yr argyfwng yma rydym yn dal i fod yma i warchod y mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Yn anffodus mae camdriniaeth yn dal i ddigwydd bob dydd.

Mae llawer o fathau o gamdriniaeth a gall ddigwydd unrhyw le – adref, mewn cartref preswyl neu nyrsio, ysbyty, yn y gweithlu, mewn canolfan ddydd neu sefydliad addysgol, mewn tai â chymorth neu yn y stryd.

• Camdriniaeth corfforol
• Camdriniaeth rhywiol
• Camdriniaeth seicolegol neu emosiynol
• Camdriniaeth ariannol neu faterol
• Esgeulustod
• Camdriniaeth wahaniaethol
• Camdriniaeth sefydliadol

Gall unrhyw un o’r mathau hyn o gamdriniaeth fod naill ai’n fwriadol neu’n ganlyniad anwybodaeth, neu ddiffyg hyfforddiant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth. Yn aml, os yw person yn cael ei gam-drin mewn un ffordd, maent hefyd yn cael eu cam-drin mewn ffyrdd eraill.

Os ydych yn amau fod oedolion bregus yn cael eu cam-drin, cysylltwch â’n Uned Diogelu 01495 315700, neu e-bost: dutyteam@blaenau-gwent.gcsx.gov.uk