Dim Parcio

Bydd Cyngor Blaenau Gwent yn dod yn gyfrifol yn y dyfodol agos am orfodaeth troseddau parcio sifil yn y fwrdeistref sirol.

Ddydd Llun 1 Gorffennaf 2019 bydd y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb am Orfodaeth Parcio Sifil oddi wrth Heddlu Gwent, a bydd yn canolbwyntio i ddechrau ar ganol trefi ac ysgolion.

Y dirwyon a gaiff eu codi am droseddau fydd £70, a ostyngir i £35 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod, a £50, a ostyngir i £25, ar gyfer tramgwyddau llai.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar y Cyngor:

"Yn dilyn penderfyniad Heddlu Gwent i beidio gorfodi cyfyngiadau parcio mwyach, gwnaeth y Cyngor gais i gymryd y pwerau drosodd. Mae cyfyngiadau parcio yn bodoli am nifer o resymau pwysig, yn cynnwys llacio tagfeydd ar ein ffyrdd, hyrwyddo diogelwch ffyrdd o amgylch ysgolion a rhoi mynediad i gerbydau argyfwng.

I ddechrau byddwn yn defnyddio dau swyddog gorfodaeth parcio yn yr ardaloedd hynny y dynodwyd eu bod yn achosi problemau, gyda golwg ar gynyddu hyn os oes angen. Nid cynllun i wneud arian yw hyn gan fod deddfwriaeth yn dweud fod yn rhaid i unrhyw arian o ddirwyon gael ei ailfuddsoddi yn y rhwydwaith priffyrdd a chludiant.

Hoffwn atgoffa modurwyr ym Mlaenau Gwent i ystyried lle maent yn parcio, fel y gallwn gydweithio i gadw ein cymunedau'n ddiogel a hefyd osgoi unrhyw ddirwyon diangen."

Er mwyn dechrau Gorfodaeth Parcio Sifil, mae'n rhaid i'r Cyngor gytuno ar Orchymyn Traffig cyfunol ar gyfer Blaenau Gwent. Bydd dogfen yn cynnwys manylion yr holl gyfyngiadau parcio gorchymyn traffig cyfredol ym Mlaenau Gwent ar gael i'w weld a rhoi sylwadau arni yn y Ganolfan Ddinesig yng Nglynebwy. Gellir gweld y ddogfen rhwng dydd Iau 9 Mai a 30 Mai, 9am i 4.30pm. Ewch i'r brif dderbynfa ar ôl cyrraedd os gwelwch yn dda.

Nodyn:

Gall y Swyddogion Gorfodaeth Sifil weithredu pob cyfyngiad cysylltiedig â pharcio ar y briffordd gyhoeddus drwy gyhoeddi Hysbysiad Tâl Cosb ar gyfer unrhyw gerbyd y ceir ei fod wedi parcio'n anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r cyfyngiadau dilynol:

      ●    Gwahardd Stopio (h.y. safleoedd bysus, marciau cadw'n glir ysgolion, llinellau igam ogam  ger mannau croesi i gerddwyr a chyfyngiadau clirffyrdd gwledig
• Dim Aros a Dim Llwytho
• Baeau Parcio yn benodol ar gyfer aros cyfyngedig, llwytho, tacsis, pobl anabl, meddygon, yr heddlu, cyfarwyddwyr angladdau a deiliaid trwydded.

Blaenau Gwent Gorfodi Parcio Sifil (GPS) - FAQs  

https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/gorfodi-parcio-sifil/