Dim mynediad i Blaencyffin Canyon

Hoffai Cyngor Blaenau Gwent, Cyngor Torfaen, Cyngor Caerffili a Heddlu Gwent atgoffa’r cyhoedd fod yr ardal a gaiff ei galw yn Blaencyffin Canyon ar dir preifat ac nad yw’n atyniad ymwelwyr.

Mae Blaencyffin Canyon mewn perchnogaeth breifat ac er y gall y dŵr edrych yn hardd, efallai nad yw’n dda i’ch iechyd ac y gall dŵr agored bob amser fod yn beryg bywyd.

Mae gan yr ardal beryglon eraill hefyd, yn cynnwys ochrau clogwyn serth, creigiau’n syrthio a budreddi cyffredinol a adawyd gan ymwelwyr blaenorol.

Mae perchennog y tir wedi codi ffensys i atal mynediad ac i ddiogelu’r cyhoedd ac mae nawr wedi cyflogi cwmni diogelwch preifat i batrolio’r ardal.

Gofynnwn i breswylwyr ac ymwelwyr o ardaloedd eraill i beidio mynd i’r ardal sydd wedi ei ffensio yn y lleoliad gan y caiff ei drin fel tresmasu.

Bydd gofyn i unrhyw un a ddelir ar y safle i adael ar unwaith a gall y berchennog tir gymryd camau cyfreithiol yn eu herbyn.

Bydd y tri chyngor cyfagos yn parhau i weithio gyda pherchennog y tir, yr heddlu a phartneriaid yn yr ardal i ostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol, difrod i’r amgylchedd ac i gadw’r cyhoedd yn ddiogel.

Croesawn bob ymwelydd felly os ydych yn bwriadu ymweld â’r ardal, dilynwch y dolenni i gael gwybodaeth am lwybrau lleol, lleoedd i ymweld â nhw ac atyniadau ymwelwyr:

https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/visitors/
https://www.torfaen.gov.uk/en/LeisureParksEvents/LeisureParksEvents.aspx
https://www.visitcaerphilly.com/