Dim Gwastraff Ochr os gwelwch yn dda

Cynlluniwyd y newid mewn polisi i gynyddu cyfraddau ailgylchu a gostwng faint o wastraff bag du a gesglir. Mae'r canlyniadau dechreuol yn addawol ac mae'r Cyngor wedi casglu bron 20% yn llai o wastraff bag du yn yr ardal na chyn i'r polisi newydd gychwyn. Ar yr un pryd, mae'r canran o ddeunydd a gasglwyd ar gyfer ailgylchu wedi codi - cynnydd o 5%.

Gwastraff bag du yw'r drutaf i gael gwared arno ar tua £100 y dunnell fetrig a rydym yn croesawu'r cynnydd yn y ffigurau diweddaraf am faint o sbwriel a gesglir yn yr ardal.

Mae ymchwil wedi dangos hefyd y gellir ailgylchu 70% o wastraff bag du. Gellir casglu'r rhan fwyaf o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu fel bwyd, tecstilau, gwydr, caniau, papur, plastigau a chardfwrdd ar ochr y palmant fel rhan o wasanaeth casglu wythnosol y Cyngor a weithredwyd am nifer o flynyddoedd.

Mae cynlluniau i ymestyn y polisi 'dim gwastraff ochr' i rannau eraill o Flaenau Gwent yn yr ychydig fisoedd nesaf. Fel canlyniad, mae'r Cyngor yn disgwyl gweld cwymp pellach yn faint o wastraff bag du a gesglir a chynnydd yn faint o ddeunydd a gesglir ar gyfer ei ailgylchu.

Dylai preswylwyr sydd eisiau archebu mwy o gadis bwyd neu flwch ailgylchu ddefnyddio adran Fy Ngwasanaethau ar wefan y Cyngor.


Dywedodd Garth Collier, Aelod Gweithredol yr Amgylchedd:

‘Rydym yn ymroddedig i gynyddu cyfraddau ailgylchu yma ym Mlaenau Gwent er mwyn cyflawni targedau Llywodraeth Cymru ac mae'r polisi newydd Dim Gwastraff Ochr yn un rhan o hyn. Mae canlyniadau cynnar cam cyntaf ein gorfodaeth Dim Gwastraff Ochr yn galonogol ac er mai dim ond cynnydd bach a welsom yn ein cyfradd ailgylchu, rwy'n disgwyl i ailgylchu gynyddu ymhellach wrth i'r cynllun gael ei ymestyn ymhellach. Hoffwn ddiolch i'n preswylwyr am eu cydweithrediad wrth ein helpu i sicrhau gwell cyfraddau ailgylchu a gostwng faint o wastraff a anfonwn i domen lanw.’