Dim Galwyr Digroeso os gwelwch yn dda

Mae Safonau Masnach Cyngor Blaenau Gwent a Heddlu Gwent wedi sefydlu 'Parth Dim Galw Digroeso' mwyaf Glynebwy yn Rowan Way, Rasa.

Mae'r parth newydd yn cynnwys tua 200 o gartrefi a bwriedir iddo ostwng digwyddiadau o droseddu carreg drws drwy atal masnachwyr twyllodrus, swyddogion ffug, lladron tynnu sylw a chasglwyr elusen sgam rhag galw.

Caiff arwyddion 'Dim Galw Digroeso' eu rhoi ar bostion lamp a chaiff pob cartref sticer ffenestr a llyfryn cynghorion yn dweud wrth breswylwyr sut i drin galwyr digroeso. Mae llawer o ddigwyddiadau troseddau carreg drws yn mynd heb eu hysbysu i'r awdurdodau a gobeithir y bydd rhif yr heddlu a gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth ar yr arwyddion yn annog preswylwyr i roi adroddiad am unrhyw ddigwyddiadau.

Bydd hyn yn galluogi'r heddlu a Safonau Masnach, sydd â gweithdrefn ymateb cyflym ar gyfer troseddau carreg drws, i ymchwilio digwyddiadau pan fo troseddau yn digwydd, gan felly alluogi gorfodaeth fwy effeithlon.

Ymgynghorwyd â phreswylwyr yn ardal Rowan Way am eu cefnogaeth i'r parth yn defnyddio cefnogaeth werthfawr Cadetiaid Heddlu Gwent. Yr ymateb a gafwyd oedd eu bod yn gryf iawn o blaid ei sefydlu, gyda llawer o bobl yn dweud iddynt gael llawer o ymweliadau gan alwyr digroeso yn y gorffennol ac yn bryderus am droseddwyr carreg drws.

Mae Safonau Masnach a'r heddlu hefyd yn ymwybodol o'r angen am y parth oherwydd nifer y digwyddiadau a adroddwyd yn yr ardal. Cafodd sefydlu'r parth ei ran-gyllido gan yr arian a godwyd mewn arddangosfa tân gwyllt a gynhaliwyd gan Wasanaeth Tân De Cymru yng Nglynebwy.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd yn cynnwys Diogelu'r Cyhoedd:

"Hwn fydd y pumed Parth 'Dim Galw Digroeso' i'w sefydlu ym Mlaenau Gwent. Mae'r parthau'n rhoi diogeliad gwerthfawr iawn i breswylwyr mewn ardaloedd lle bu nifer o ddigwyddiadau masnachwyr twyllodrus. Yn y dyfodol ymgynghorir â phreswylwyr sy'n byw yn yr ardaloedd a gaiff eu targedu gan y mathau hyn o droseddwyr a sefydlir parthau newydd os teimlir fod angen y diogeliad ychwanegol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth A. Davies, Cynghorydd Rasa:
"Mae'n hysbys iawn fod masnachwyr twyllodrus yn targedu'r henoed a'r bregus. Mae masnachwyr twyllodrus yn codi crocbris am waith o safon isel iawn ac yn rhoi enwau a manylion ffug fel na fedrir dod o hyd iddynt.

Mae masnachwyr ffug a lladron tynnu sylw yn aml yn cydweithio ac yn rhoi gwybodaeth i'w gilydd am dargedau posibl. Mewn ymdrech i gynyddu effeithlonrwydd atal troseddu carreg drws mae adran Safonau Masnach Cyngor Blaenau Gwent a Heddlu Gwent yn cyflwyno'r parth yn yr ardal fydd yn rhoi diogeliad i'r preswylwyr.

Mae hefyd yn werth rhoi sylw i'r ffaith y gall y gwasanaethau rhad ac am ddim a gynigir gan Cymorth i Ddioddefwyr roi cefnogaeth a chymorth i bobl y mae trosedd neu ddigwyddiad trawmatig wedi effeithio arnynt. Gellir cysylltu ag elusen annibynnol Cymorth i Ddioddefwyr ar 0300 123 2133.