Dilyn Y Ddeddf 2018/19

Gofalwr yw rhywun sy'n gofalu am ffrind neu aelod o'r teulu ac sydd ddim yn cael ei dalu i wneud hynny.

Bwriad y Ddeddf ydy trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu darparu yng Nghymru.  Yn benodol:  

  • Mae dyletswydd ar gynghorau lleol i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth, gyda gwybodaeth am ofal a chymorth, a darparu cyngor ar ble i gael cefnogaeth
  • Lle mae'n ymddangos bod angen cefnogaeth arnoch fel gofalwr (naill ai nawr neu yn y dyfodol), yr hawl i gael asesiad o'ch anghenion
  • Yr hawl i ofyn am gael asesiad o anghenion gofalwyr
  • Yr hawl i chi, fel gofalwr, os ydych chi'n awyddus i barhau yn eich rôl ofalu, ac yn gallu gwneud hynny

Ers gweithredu'r Ddeddf ddwy flynedd yn ôl, mae Gofalwyr Cymru, drwy’r arolwg Dilyn y Ddeddf, wedi gofyn i ofalwyr pa’ un a yw'r hawliau hyn yn cael eu gwireddu, mewn ymgais i fonitro cynnydd ar draws holl ardaloedd y cyngor lleol yng Nghymru. Mae canlyniadau'r tri phapur briffio cyntaf wedi cael eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth ac i ymgyrchu ar eich rhan er mwyn sicrhau bod yr hawliau newydd hyn yn cael eu gwireddu. Gallwch ddarllen yr adroddiadDilyn y Ddeddf diweddaraf yma.

Mae angen inni barhau â'r momentwm, ac rydym yn ddiolchgar ichi am ein helpu ni drwy gwblhau'r arolwg.