Digwyddiadau Coffa Blaenau Gwent 2026

Mae gwasanaethau coffa yn dod â thrigolion o bob rhan o'n bwrdeistref at ei gilydd i fyfyrio ar wasanaeth ac aberth y nifer o ddynion a menywod o'u cymunedau sydd wedi gwasanaethu, neu sydd wedi cefnogi rhywun sydd wedi gwneud hynny, neu wedi colli rhywun a wnaeth hynny.

Gallwch ddod o hyd i fanylion am ddigwyddiadau coffa ar draws Blaenau Gwent isod. Hoffem hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r nifer o sefydliadau a gwirfoddolwyr ar draws y fwrdeistref sy'n trefnu'r digwyddiadau pwysig hyn.

Dydd Sadwrn 7fed Tachwedd 2026

Côr Meibion Orpheus Tredegar, Cyngerdd Coffa.

Lleoliad: Neuadd Côr Orpheus Tredegar, Rawlinson Terrace, Tredegar. Nos Sadwrn 7fed Tachwedd 7.00yh. Tocynnau: £5.00 Ar gael gan ein Hysgrifennydd. Ffoniwch: 07583 897170

Dydd Sadwrn 6pm Gwasanaeth Coffa. Lleoliad: Swffryd War Memorial.

Gorymdaith Goffa Dydd Sul 8fed Tachwedd 2026

Abertyleri

Cynhelir Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio yn Abertyleri ar ddydd Sul, 8fed Tachwedd 2026. Ymgynnull am 10.15yb ar ben uchaf Stryd yr Eglwys, gorymdeithio am 10.30yb drwy Stryd yr Eglwys, drwy Hill Street a Somerset Street, i gyrraedd y Gofeb Ryfel am 10.45yb, ar gyfer y Gwasanaeth Coffa.

Abertyleri (Blaenau Gwent Rows)

Dydd Sul 8fed Tachwedd 2026 am 4.00yp. Gosodir torchau wrth y gofeb.

Bourneville

Dydd Sul 8fed Tachwedd 2026. Ymgynnull yn y Neuadd Gymunedol am 3.00yp; gosodir torchau wrth y gofeb ryfel.

Brynmawr

Cynhelir Gorymdaith a Gwasanaeth Dydd y Cofio ym Mrynmawr ddydd Sul, 8fed Tachwedd 2026. Bydd y cyfranogwyr yn ymgynnull am 10.15yb y tu allan i'r Clwb Cymdeithasol (hen Glwb y Lleng) ar King Street, ac yn cychwyn tua 10.25yb. Byddant yn teithio ar hyd King Street, Somerset Street a Bailey Street i gyrraedd y Gofeb Ryfel yn Sgwâr y Farchnad, lle bydd y Gwasanaeth Coffa’n dechrau am 10.45yb. Ar ôl hynny, bydd yr orymdaith yn ymgynnull eto ar Alma Street ac yn dychwelyd i Glwb Cymdeithasol Brynmawr (a adwaenid gynt fel y Royal British Legion) ar hyd Bailey Street, Somerset Street a King Street.

Cwm

Bydd yr Orymdaith yn ymgynnull ar ddydd Sul 8fed Tachwedd 2026 ym maes parcio Canolfan Busnes Cwm Marine St, Cwm, tua 10.20yb, ac am 10.30yb yn mynd ymlaen ar hyd Marine Street at y Gofeb Rhyfel y tu allan i adeilad y llyfrgell ar Stryd Cannings ar gyfer Gwasanaeth Coffa, a fydd yn dechrau am 10.50yb.

Glynebwy

Bydd yr Orymdaith yn ymgynnull ddydd Sul 8fed Tachwedd 2026 yn Stryd Bethcar ger Weatherspoon’s, Glynebwy, am 10.15yb, ac am 10.30yb, yn mynd ymlaen trwy Stryd y Farchnad a Heol Libanus i’r Gofeb Ryfel ar gyfer Gwasanaeth Coffa, a fydd yn dechrau am 10.50yb.

Ar ôl y Gwasanaeth, bydd yr orymdaith yn ail-ffurfio ac yn gorymdeithio yn ôl i fyny Ffordd Libanus gyda'r salíwt yn cael ei gymryd yn Stryd y Farchnad cyn cael eu rhyddhau.

Bydd lluniaeth ar gael yng Nghanolfan Addysg Oedolion ar Stryd James ar ôl i'r orymdaith ddod i ben.

Cynhelir Gwasanaeth Coffa pellach hefyd yn Christ Church, Glynebwy, am 6.00yh. Trefnir y gwasanaeth gan Churches Together. Gwahoddir mudiadau sy'n gwisgo lifrai i orymdeithio â'u baneri yn y gwasanaeth, a gofynnir iddynt gyrraedd erbyn 5.30yp.

Gwahoddiad cynnes i bawb!

Llanhiledd

Cynhelir Gwasanaeth Coffa Llanhiledd ddydd Sul, 8fed Tachwedd 2026, wrth y Gofeb Ryfel y tu allan i Sefydliad Llanhiledd, gan ddechrau am 10.45yb.

Nant-y-glo a Blaenau

Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio i'w cynnal yn ardal Nant-y-glo a Blaenau ddydd Sul, 8fed Tachwedd 2026, yn cychwyn am 2.10yp o Garn Cross, Nant-y-glo, ymlaen i'r Gofeb Ryfel, Parc Canolog, Blaenau ar gyfer Gwasanaeth Coffa am 2.45yp.

Yn dilyn y Gwasanaeth, bydd yr orymdaith yn ail-ffurfio ac yn gorymdeithio i'r Institiwt/Llyfrgell, Stryd Fawr, Blaenau, bydd y salíwt yn cael ei gymryd yn Hen Swyddfeydd Rhanbarthol y Cyngor, gyda'r Orymdaith yn cael ei rhyddhau y tu allan i Institiwt/Llyfrgell Blaenau.

Ar ôl cwblhau'r Gwasanaeth a'r Orymdaith, bydd lluniaeth ar gael yng Nghlwb y Ceidwadwyr, Stryd Fawr, Blaenau.

Rasa a Beaufort

Cynhelir y Gwasanaeth Coffa ar gyfer ardal Rasa a Beaufort ddydd Sul, 8fed Tachwedd 2026.

Bydd yr orymdaith yn ymgynnull am 1.30yp wrth brif fynedfa Theatr Beaufort, ac am 1.45yp bydd yn gorymdeithio i lawr Beaufort Rise i’r Senotaff ar gyfer y gwasanaeth coffa.

Ar ôl y gwasanaeth, bydd yr orymdaith yn ffurfio eto ac yn gorymdeithio yn ôl i fyny Beaufort Rise; yno, cymerir y salíwt cyn i’r orymdaith gael ei rhyddhau yn Neuadd Ddawns Beaufort.

Ar ôl i’r orymdaith gael ei rhyddhau, bydd lluniaeth ar gael yn Neuadd Ddawns Beaufort, lle mae croeso i bawb.

Tredegar

Cynhelir Gorymdaith Sul y Cofio yn Nhredegar ar ddydd Sul 8fed Tachwedd 2026. Mae’r trefniadau’n cynnwys gwasanaeth Eglwys yn Eglwys San Siôr rhwng 10.00yb-10:20yb, yna bydd yr orymdaith yn ffurfio y tu allan i’r eglwys am 10:30yb gan fynd drwy Stryd yr Eglwys, Stryd Commercial, (Stryd y Frenhines Victoria), Stryd y Castell a Stryd Morgan i Barc Bedwellte gan wneud ei ffordd i'r Gofeb Ryfel lle cynhelir y Gwasanaeth Coffa arferol ynghyd â'r seremoni Dwy Funud o Dawelwch a Gosod Torch. Ar ôl hynny bydd y mynychwyr yn ymwahanu.

Digwyddiad Sul y Cofio Cymunedol sy'n cynnwys perfformiadau cerddoriaeth fyw gan Krazy Legs Kevin, Bobby Lee Ray a Trinity (fel y gwelir ar The Voice UK).  Cynhelir gan Hwb Cefnogi Cyn-filwyr Tredegar a Cymru Creations yn Ystafell Ddawns y Frenhines, Tredegar.  Dydd Sul Tachwedd 8fed 16:00.  Tocynnau £10

Diwrnod y Cadoediad – Dydd Mercher, 11eg Tachwedd

Glynebwy

10:50yb – Gwasanaeth Coffa. Lleoliad: Canolfan Siopa Glynebwy.

Tredegar

11:05yb – Gweithred Goffa. Lleoliad: Mainc Goffa’r Rhyfel Byd Cyntaf, Commercial Street, Tredegar.

11:20yb – Gweithred Goffa. Lleoliad: Mainc Goffa’r Rhyfel Byd Cyntaf, Peacehaven, Tredegar.

11:35yb – Gweithred Goffa. Lleoliad: Mainc Goffa’r Rhyfel Byd Cyntaf, Maes y Pentref Sirhywi, Tredegar.

Os hoffech i’ch digwyddiad gael ei ychwanegu at y rhestr hon, cysylltwch â Carolyn.Jenkins@blaenau-gwent.gov.uk