Digwyddiad yng Nghasnewydd i nodi Mis Hanes Pobl Dduon

Bydd y digwyddiad, sy'n cael ei drefnu gan Race Council Cymru ac yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, a Chyngor Celfyddydau Cymru yn canolbwyntio ar ‘Eiconau Cymru Ddu’ ac ymwybyddiaeth o droseddau casineb.

Bydd perfformiadau, cerddoriaeth fyw, trafodaethau panel a chyfleoedd i rwydweithio yn rhan o'r digwyddiad.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, a fydd yn siarad yn y digwyddiad: “Mae'r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle gwych i ni gydnabod ac arddangos y gorau o ddiwylliant du balch Gwent.

“Mae Gwent yn ardal sydd â chyfoeth o ddiwylliant a hanes amrywiol. Nid yn unig mae'r digwyddiad hwn yn ein galluogi ni i fyfyrio ar fywydau unigolion o'r gorffennol a'u dathlu, ond mae hefyd yn cydnabod ac yn canmol y bobl yn y gymdeithas heddiw sy'n cyfrannu at wneud Cymru'n wlad well i bawb fyw ynddi.

“Yn drist, mae hiliaeth a gwahaniaethu'n dal i ddigwydd yng Ngwent. Mae digwyddiadau fel hyn yn annog cymunedau i ddod at ei gilydd a rhannu'r pethau sy'n ein huno, gan werthfawrogi’r gwahaniaethau diwylliannol hynny sy'n ein gwneud yn unigryw. Mae’n bleser gen i gefnogi'r digwyddiad hwn ac edrychaf ymlaen at weld pawb ar 15 Hydref.”

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn digwydd yn y DU trwy gydol mis Hydref, a gall unrhyw un drefnu digwyddiad i ddathlu hanes pobl dduon er mwyn nodi'r achlysur.

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn sefydliad sy'n ymgysylltu â phobl, eu haddysgu a'u grymuso i gydnabod y cyfraniad mae'r Gwasgariad Affricanaidd wedi'i wneud at hanes datblygiad diwylliannol ac economaidd Cymru.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Julian Williams: “Mae digwyddiadau fel hyn yn galluogi'r gymuned ehangach i gymryd rhan, dysgu a dathlu ein hanes byd-eang. Nod sylfaenol Mis Hanes Pobl Dduon yw bod digwyddiadau ystyrlon yn digwydd trwy gydol y flwyddyn a bydd y digwyddiad yng Nglan yr Afon yn tynnu sylw at hyn.

“Yn lleol, rydym yn parhau i weithio gyda GEMA, ein cymdeithas staff i leiafrifoedd ethnig, i feithrin perthnasau cadarnhaol gyda'n cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a thynnu sylw at rywfaint o'r gwaith da rydym yn ei wneud.”

Am fwy o wybodaeth am Fis Hanes Pobl Dduon, ewch i bhmwales.org.uk