Dechrau Gwaith Mawr ar Briffyrdd Blaenau Gwent

Cymeradwyodd y Cyngor y llynedd fuddsoddi £2 miliwn yn ei rwydwaith priffyrdd. Nod hyn oedd gwella cyflwr ffyrdd preswyl ym mhob rhan o'r fwrdeistref.

Mae'r gwaith a ddechreuwyd yn bennaf yn cynnwys rhoi wyneb newydd ar ffyrdd ac adnewyddu marciau ffordd.

Cafodd y gwaith ffordd dilynol ei gwblhau hyd yma:

• Glyn Terrace, Tredegar
• Stonebridge a Heol Honeyfield, Rasa
• Tŷ Dan-y-Wal, Cwmtyleri
• Heol Dyffryn, Abertyleri
• Cwm Nant y Groes, Six Bells
• Stryd Lewis, Swffryd
• Brynhyfryd Terrace, Cwm

Felly, ar hyn o bryd mae cyfanswm arwynebedd wyneb ffyrdd newydd a gwblhawyd yn 26,745m2

Mae gwaith ffordd pellach ar y gweill i'w weithredu mewn nifer o gyfnodau a chaiff ei wneud rhwng Gorffennaf a Medi 2018.

Ar ôl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau, bydd cyfanswm arwynebedd y gwaith ffyrdd a wnaed tua 110,000m2.

Yn ogystal â gwella ansawdd y ffyrdd hyn ar gyfer defnyddwyr bob dydd yn y gymuned, bydd y gwaith hefyd yn cynorthwyo i gynyddu cyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd, mewnfuddsoddiad newydd a chreu canfyddiad cadarnhaol i ymwelwyr sy'n dod i'r ardal neu'n mynd drwyddi.

Dywedodd y Cyng Garth Collier, Dirprwy Arweinydd ac Arweinydd Gweithredol yr Amgylchedd:

‘Rwy'n falch dweud i ni wneud cynnydd ar wella cyflwr ffyrdd yn dilyn ein cyhoeddiad y llynedd i fuddsoddi £2miliwn yn ein seilwaith. Mae cam cyntaf y gwaith wedi'i orffen ac mae gennym fwy o waith ffordd ar y gweill ar gyfer yr ychydig wythnosau nesaf fel rhan o'r buddsoddiad.  

“Rydym wedi gwrando ar yr hyn oedd gan y cyhoedd i'w ddweud am gyflwr ffyrdd preswyl ym Mlaenau Gwent ac wedi gweithredu ar hyn. Mae gwella'r amgylchedd a'r seilwaith er budd ein cymunedau lleol a hefyd i fusnesau ac ymwelwyr i Flaenau Gwent yn flaenoriaeth allweddol i'r Awdurdod.'