Dathlu prentisiaid a busnesau Blaenau Gwent yn noswaith Gwobrau Ysbrydoli

Dangosodd Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu'n Uchel Blaenau Gwent eu prentisiaid gorau sy'n gweithio mewn cwmnïau gweithgynhyrchu uchel ar draws y fwrdeistref. Cyflwynwyd chwe gwobr arbennig drwy gydol y noswaith, i gydnabod y prentisiaid hynny a ddangosodd ymroddiad ac ymrwymiad eithriadol ar hyd eu fframweithiau.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy ar 26 Tachwedd 2019 i gynulleidfa lawn o gyflogwyr, prentisiaid, perthnasau a phartneriaid cysylltiedig.

Derbyniodd Jack Williams, Prentis y Flwyddyn, ei wobr gan Lee Waters, Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Cafodd Jack, prentis yn Sogefi, ei gydnabod am ei foeseg waith ragorol i'r cwmni a hefyd ei ymroddiad i'w fframwaith a'i gydweithwyr mewn gwaith theori a gwaith ymarferol. Mae'r Sogefi Group yn gyflenwr byd-eang blaenllaw mewn rhannau gwreiddiol ar gyfer y diwydiant modurol gyda dros 35 mlynedd o brofiad. Mae Sogefi yn dylunio, datblygu a chynhyrchu systemau hidlo a chydrannau crogiant hyblyg yn ogystal â systemau rheoli aer ac oeri injan.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
"Fel llywodraeth, rydym eisiau i Gymru fod yn genedl lewyrchus a ffyniannus. Mae Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu'n Uchel yn chwarae rôl hanfodol wrth gyflawni'n union hynny drwy gyfleoedd dysgu yn y gweithle a helpu busnesau i dyfu.

"Mae wedi cyflymu datblygu sgiliau a gweithredu fel hwylusydd i gyflogwyr sydd eisiau mabwysiadu deallusrwydd artiffisial a datblygu technegau gweithgynhyrchu uwch, gan rymuso pobl ifanc i ddatblygu'r wybodaeth sydd ei hangen i ddatgloi cyfleoedd gyrfa sgil uchel.

"Llongyfarchiadau i bawb yn y rownd derfynol a dymuniadau gorau oll iddynt ar gyfer y dyfodol."

Categori Gwobr 2019

Enillydd

Cwmni

Cyflwynwyd gan

Seren Lachar

Jack Hayman   

Express Contract Drying

Richard Crook

Cyfarwyddwr Corfforaethol

Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol

Model Rôl Rhagorol

Declan Hughes 

Continental Teves

Claire Sexton

Pennaeth Cyllid Continental Teves

Gwobr Mentoriaid Anelu'n Uchel Blaenau Gwent

Marcus Dyke  

GTEM

Graham Rees a Julie Robins

Mentoriaid Anelu'n Uchel

Cyflogwr Nawdd y Flwyddyn

Liberty Steel

Liberty Steel

Lee Waters AC

Llywodraeth Cymru

Prentis y Flwyddyn

Jack Williams   

Sogefi

Lee Waters AC

Llywodraeth Cymru

Prentis Mewnol CBSBG

Jordan Harley   

CBSBG

Michelle Morris

Rheolwr Gyfarwyddwr CBSBG

Fel enillwyr diweddar categori 'Cyflogwr Mawr y Flwyddyn' yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru, cafodd Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Blaenau Gwent ei chydnabod yn genedlaethol am ddatblygu cysylltiadau gyda busnesau lleol, ynghyd â chyfradd lwyddiant eithriadol ar gyfer dilyniant prentisiaid i gyflogaeth lawn-amser.

Cafodd y cynllun ei sefydlu rhwng diwydiant, addysg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Caiff ei gyllido drwy Lywodraeth Cymru a Pharth Menter Glynebwy i hwyluso a chefnogi busnesau lleol drwy recriwtio prentisiaid, gyda'r nod o lenwi'r bwlch sgiliau cynyddol o fewn gweithgynhyrchu lleol. Yn canolbwyntio i ddechrau ar beirianneg, mae'r rhaglen yn awr wedi datblygu i ddarparu lleoliadau prentisiaeth ar gyfer ystod eang o feysydd yn cynnwys llwybrau Peirianneg Fecanyddol/Trydanol, Ariannol, Technoleg Gwybodaeth a Phrentisiaethau Masnachol.

Mae tîm Rhaglen Rhannu Partneriaeth Anelu’n Uchaf Blaenau Gwent ar gael ar gyfer unrhyw gwmnïau a busnesau Gweithgynhyrchu Uwch ym Mlaenau Gwent a hoffai gael mwy o wybodaeth am gyflogi prentis. Cyylltwch ag Aspire ar 01495 355508 neu anfon e-bost at SAP@blaenau-gwent.gov.uk i gael mwy o gyngor a gwybodaeth.