Dathlu lansiad gwefan newydd CAMHS Arbenigol!

Mae CAMHS Arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi lansio gwefan newydd sy'n anelu i helpu pobl ddeall mwy am y gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc ar draws Gwent sy'n cael trafferthion gyda'u hiechyd meddwl a lles emosiynol. Mae'r wefan yn cynnwys llawer o wybodaeth addas ar gyfer pobl ifanc, rhieni a gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Gall defnyddwyr gwasanaeth ganfod gwybodaeth fanwl am CAMHS Arbenigol a beth sy'n digwydd pan gewch atgyfeiriad. Cynlluniwyd y wefan i roi sicrwydd i bobl ifanc a gostwng unrhyw bryder y gallant fod yn ei deimlo, gyda gwybodaeth am:

  • sut i wneud atgyfeiriad at wasanaethau CAMHS Arbenigol drwy Llesiant SPACE ym mhob ardal leol yng Ngwent;
  • canfod beth fydd yn digwydd ar bob cam o'r broses atgyfeirio;
  • sut beth yw hi mynd am apwyntiad CAMHS Arbenigol a'r hyn gall y sesiynau ei gynnwys;
  • hunan-gymorth i gefnogi pobl ifanc i ddeall a thrin eu hiechyd a'u llesiant;
  • beth mae'r gwahanol bobl sy'n gweithio yn CAMHS Arbenigol yn ei wneud, o seiciatryddion a seicolegwyr, i nyrsys, gweinyddwyr a mwy
  • cefnogaeth a chyngor ar ystod eang o faterion iechyd meddwl megis pryder, iselder, anhwylderau bwyta, hunananafu a phwysau bywyd anodd.

I gael mwy o wybodaeth ewch i:
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/866/page/98175