Datgelu Enillwyr Gwobrau Busnes Blaenau Gwent

Cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ei Wobrau Busnes cyntaf neithiwr. Yn y digwyddiad llwyddiannus cyhoeddwyd enwau enillwyr wyth categori busnes yn cynnwys Busnes y Flwyddyn.

Busnes Newydd y Flwyddyn - noddwyd gan UK Steel Enterprise: The Warehouse Hair & Beauty Supplies

Busnes Bach neu Ganolig y Flwyddyn - noddwyd gan Business in Focus: Atal UK Cyf.

Menter Gymdeithasol y Flwyddyn - noddwyd gan United Welsh: Gofal a Thrwsio Blaenau Gwent a Chaerffili

Rhagoriaeth mewn Arloesedd a Thechnoleg - noddwyd gan Thales: Canolfan Addysg Eden

Busnes Gweithgynhyrchu y Flwyddyn - noddwyd gan Sefydliad Gweithgynhyrchwyr EFF: Performance Masterbatches Cyf.

Rhagoriaeth mewn Masnach Rhyngwladol - noddwyd gan Conti Teves UK Cyf: Performance Masterbatches Cyf.

Busnes Manwerthu neu Wasanaeth y Flwyddyn - noddwyd gan Fforwm Busnes Glynebwy a Cartrefi Melin: The Warehouse Hair & Beauty Supplies

Busnes y Flwyddyn - noddwyd gan Lywodraeth Cymru: Performance Masterbatches Cyf.

Dathlodd y seremoni wobrau lwyddiannau unigolion entrepreneuraidd a busnesau bach a chanolig seiliedig ym Mlaenau Gwent. Dathlodd rai o'r cwmnïau gorau ym Mlaenau Gwent. Aeth cwmnïau benben mewn wyth categori gyda Performance Masterbatches Cyf. yn ennill gwobr derfynol y noswaith - teitl pwysig  Busnes y Flwyddyn.

 
Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Dyma'r Gwobrau Busnes cyntaf i ni eu trefnu ac rwy'n falch i ddweud ei bod yn noswaith lwyddiannus yn dathlu a rhoi sylw i lwyddiant busnesau ym Mlaenau Gwent. Cafodd cwmnïau o bob maint a sector wobrau am eu llwyddiannau dros y 12 mis diwethaf. Bu dros gant o bobl o gymuned fusnes Blaenau Gwent yn bresennol yn y dathliad a gynhaliwyd yn y Swyddfeydd Cyffredinol. Llongyfarchiadau i'n holl enillwyr. Hoffwn ddiolch i'n noddwyr a phob busnes a gyflwynodd gynigion ac i'r rhai ar y rhestr fer. Edrychwn ymlaen at gynnal hyn eto y flwyddyn nesaf a pharhau i gydnabod llwyddiannau busnesau ym Mlaenau Gwent.”

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

“Rwy’n falch i fod yn rhan o Wobrau Busnes cyntaf Blaenau Gwent a hoffwn longyfarch busnesau mawr a bach y cafodd eu cyflawniaadau a’u llwyddiannau eu cydnabod.

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n hollol ymroddedig i gefnogi twf economaidd ym Mlaenau Gwent ac roeddwn yn falch i gyhoeddi yr wythnos hon y byddwn yn buddsoddi £25m ym mhrosiect Cymoedd Technoleg dros y tair blynedd nesaf er mwyn hybu cynnydd y rhaglen bwysig yma.

“Yn unol â’n Cynllun Gweithredu Economaidd, bydd egwyddorion twf, gwaith teg a datgarboneiddio yn greiddiol i raglen Cymoedd Technoleg ynghyd â cheisio lledaenu ffrwythau twf economaidd i ardaloedd na wnaeth cystal mewn blynyddoedd diweddar.”

Dywedodd Mark Langshaw MBE, Cadeirydd, Bwrdd Ymgynghori Parth Menter Glynebwy:

“Ar ran Bwrdd Ymgynghori Parth Menter Glynebwy, hoffem gynnig ein llongyfarchiadau i bawb a ymgeisiodd, y rhai ar y rhestr fer ac enillwyr Gwobrau Busnes cyntaf Blaenau Gwent. Roedd yn noswaith ddifyr iawn, yn dathlu llwyddiant busnesau ym Mlaenau Gwent, ac roedd yn wych gweld cefnogaeth mor dda. Hoffem fynegi ein diolch i Lywodraeth Cymru a'r holl noddwyr eraill am gefnogi'r gwobrau ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent am ei gwaith rhagorol yn trefnu'r gwobrau cyntaf o'r fath ym Mlaenau Gwent. Gobeithiwn y daw hyn yn ddathliad blynyddol o lwyddiannau busnesau ym Mlaenau Gwent.