Datganiad Swyddogol Datganiad Cyfrifon

Ni all Archwilydd Cyffredinol Cymru lofnodi cyfrifon y Cyngor ar gyfer 2017/18 ar hyn o bryd oherwydd ymchwiliad sy'n mynd rhagddo gan Heddlu Gwent ar afreoleidd-dra llywodraethiant ac ariannol posibl.

Rhaid pwysleisio nad yw hyn yn adlewyrchu mewn unrhyw ffordd reolaeth ariannol a chynllunio cyllideb y Cyngor sy'n gadarn iawn, ond yn cyfeirio at un maes penodol, ein trefniadau gyda Silent Valley Waste Services Cyf. Ni chafodd cyfrifon 2016/17 eu llofnodi ychwaith am yr un rheswm.

Yn y cyfarfod pleidleisiodd aelodau'r Pwyllgor Archwilio yn unfrydol i beidio cymeradwyo Datganiad Cyfrifon y Cyngor ar gyfer 2017/18.

Gwnaed y penderfyniad yn dilyn cadarnhad gan Swyddfa Archwilio Cymru a Phrif Swyddog Adnoddau y Cyngor na allent lofnodi'r cyfrifon oherwydd yr ymchwiliad sy'n mynd rhagddo.
Cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru yn y cyfarfod mai'r unig reswm pam na fedrai'r Archwilydd Cyffredinol lofnodi'r cyfrifon oedd mater yn deillio o drefniadau'r Cyngor gyda Silent Valley Waste Services Cyf, a bod y datganiadau ariannol creiddiol yn adlewyrchu'n deg sefyllfa ariannol y Cyngor.

Caiff y cyfrifon yn awr eu cyhoeddi erbyn y dyddiad cau o 30 Medi, ynghyd â'r datganiadau statudol gofynnol, ac ar ôl cwblhau ymchwiliad yr heddlu a chasgliad dilynol yr archwiliad, caiff y cyfrifon eu hail-gyflwyno i'r Pwyllgor eu hystyried a'u cymeradwyo.
Gofynnir i chi werthfawrogi na allwn roi mwy o sylwadau ar hyn o bryd oherwydd yr ymchwiliad cyfredol.