Datblygu Llwybr Ebwy Fawr

Mae amrywiaeth o bartneriaid sector cyhoeddus yn dod ynghyd gyda phreswylwyr lleol i helpu cefnogi datblygu cynllun newydd Llwybr Ebwy Fawr sy'n rhedeg o Dredegar i Cwm.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent wedi sicrhau dros £40,000 o gyllid grant gan Cyfoeth Naturiol Cymru i weithio gyda chymunedau i ddatblygu Llwybr Ebwy Fawr.

Mae'r llwybr 6 milltir o hyd yn ymestyn o Goedwig Rhiw Sirhywi ger Tredegar, drwy Lynebwy ac i lawr i hen Lofa'r Marine yng ngwaelod Cwm, a bydd yn cysylltu gyda llwybrau presennol eraill yn yr ardal, tebyg i lwybr Ebwy Fach.

Cynigiwyd am yr arian fel rhan o brosiect Blaenau Gwent Ar Symud sy'n anelu i gael mwy o bobl i fynd i'r awyr agored i gadw'n heini ac yn iach a gwerthfawrogi nodweddion lleol a natur ar garreg eu drws.
Bydd y gwaith yn cynnwys gosod byrddau gwybodaeth ar dreftadaeth, hanes a bywyd gwyllt lleol, plannu coed a thirlunio, gosodweithiau celf unigryw yn ogystal ag animeiddiadau digidol hwyliog y gall pobl gael mynediad iddynt drwy ap ffôn symudol 'Zappar'.

Gwahoddwyd plant a theuluoedd i ddigwyddiad natur yn Hyb Dechrau'n Deg yn Cwm ar 26 Mehefin i roi eu barn am y llwybr. Gwahoddwyd plant i ymchwilio natur a chwrdd â bywyd gwyllt sy'n ymweld yn ogystal â gwneud blychau adar.

Mae Cyngor Blaenau Gwent hefyd yn trefnu arolwg yn gofyn am farn pobl am y Llwybr, sut y maent yn ei ddefnyddio a sut yr hoffent ei weld yn gwella. Mae mwy o fanylion ar hyn ar gael yn -https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=156136997503

Dywedodd y Cyng Nigel Daniels, Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent:

"Mae prosiect Blaenau Gwent ar Symud yn rhan o nod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o gael pobl leol i fynd allan i'r awyr agored i helpu eu cadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol ac annog pobl i werthfawrogi ac ymfalchio mewn natur ac amgylchedd naturiol cwm Ebwy Fawr a'i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae safon ein hamgylchedd naturiol ym Mlaenau Gwent yn addas iawn ar gyfer hyrwyddo ffordd o fyw mwy egnïol ymysg pobl o bob oed a byddwn yn parhau i weitio gyda'n partneriaid a'r gymuned leol i greu a chynnal llwybrau teithio diogel ac egnïol."

Mae pobl leol wedi ffurfio Grŵp Cymunedol Llwybr Ebwy Fawr i gefnogi'r gwaith. Mae llawer o'r bobl hyn eisoes wedi treulio amser yn gofalu am adrannau o'r llwybr a bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cefnogi hyn.

*Pedwar aelod statudol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent yw:
• Cyngor Blaenau Gwent
• Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
• Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
• Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae'r partneriaid allweddol eraill yn cynnwys:
• Llywodraeth Cymru
• Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
• Prif Gwnstabl Heddlu Gwent
• Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO)
• Gwasanaethau Prawf
• Tai Calon
• Coleg Gwent
• GIG Cymru
• Cyfoeth Naturiol Cymru


Mae mwy o wybodaeth ar waith y bwrdd ar gael yma - https://www.blaenaugwentpsb.org.uk/