Datblygiadau newydd i gefnogi Gweithwyr Cymdeithasol newydd gymhwyso

Cynhaliwyd y lansiad ddydd Gwener 21 Hydref ym Memo Trecelyn lle cyflwynwyd trosolwg o'r rhaglen gefnogaeth. Cafodd y digwyddiad ei agor gan Ian Thomas o Gyngor Gofal Cymru. 

Nod y rhaglen gefnogaeth yw:

  • Sicrhau pontio llyfn o fod yn fyfyriwr i fod yn weithiwr cymdeithasol hyderus
  • Cynyddu cadw a bodlonrwydd gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso
  • Sicrhau bod dinasyddion yn derbyn gwasanaethau ansawdd uchel
  • Datblygu rhwydwaith cefnogaeth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso
  • Cyflawni disgwyliadau Cyngor Gofal Cymru

Cafodd datblygu'r rhaglen ei gefnogi gan ymgynghoriad gyda dinasyddion, ymchwilio rhaglenni cefnogaeth a chyhoeddiadau eraill a gwrando ar adborth gan weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso.

Bydd y rhaglen gefnogaeth hefyd yn galluogi gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso i baratoi ar gyfer eu datblygiad yn y dyfodol gan y bydd yn ofyniad gan Gyngor Gofal Cymru fod yr holl weithwyr cymdeithasol sy'n cymhwyso ar ôl Ebrill 2016 yn cwblhau'r Rhaglen Cyfnerthu. 

Dywedodd y Cyng Robin Woodyatt, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Caerffili: "Rwy'n falch iawn fod rhaglen cefnogaeth gweithwyr cymdeithasol Tair Blynedd Cyntaf mewn Ymarfer yn cael ei lansio gan y bydd yn rhoi gwasanaeth mentora gwerthfawr ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso. Yn ogystal â chyflwyno'r gweithwyr cymdeithasol hyn i waith cymdeithasol proffesiynol, bydd y rhaglen cefnogaeth yn eu galluogi i gynyddu mewn hyder a gallu. Edrychaf ymlaen at weld sut bydd y rhaglen cefnogaeth yn datblygu yn y dyfodol." 

Dywedodd y Cyng Bartlett, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent: "Mae hyn yn gynllun mor gadarnhaol ar gyfer holl fyfyrwyr gwaith cymdeithasol. Gobeithio y caiff y rhaglen ei gweld fel ased wirioneddol i bobl a all fod yn derbyn gofal gan y gweithwyr gofal cymdeithasol hyn yn y dyfodol. Rwy'n sicr y bydd yr hyder a'r gefnogaeth a geir drwy'r rhaglen yn cael ei drosglwyddo i'r gosodiad gofal proffesiynol a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r rhaglen."