Darparu gyda Llai. Swyddfa Archwilio Cymru: Adolygiad Dilynol Iechyd yr Amgylchedd

Nododd Pwyllgor Craffu y Cyngor adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Darparu gyda Llai yng nghyfarfod heddiw (Dydd Iau 27 Chwefror 2020). Cymeradwyodd y pwyllgor yr opsiwn cyntaf; mae aelodau wedi ystyried yr adroddiad a chefnogi ymateb y swyddog i’r cynigion a argymhellir gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae’r adolygiad dilynol yn cydnabod bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi archwiliad blaenorol ar Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor ym mis Hydref 2014.

Mae’r adroddiad presennol yn sôn am adolygiad 2014 yr Archwilydd Cyffredinol a lle cafodd camau gweithredu eu rhoi ar waith. Daeth Swyddfa Archwilio Cymru i’r casgliad fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd wrth fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed yn 2014, er enghraifft:

• Cytuno a nodi blaenoriaethau yng nghynllun busnes y gwasanaeth
• Gwasanaethau iechyd yr amgylchedd yn cael eu hystyried fel mater o drefn gan drefniadau craffu y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Wilkins, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol:

“Yn dilyn adroddiad dechreuol yr Archwilydd Cyffredinol yn 2014, cafodd y camau gweithredu a gynigiwyd eu gweithredu’n flaenorol. Mae’r adolygiad cyfredol yn dilyn hynny gyda ffocws ar i’r Cyngor drin ystyriaethau neilltuol ac mae Swyddfa Archwilio Cymru yn fodlon gyda’r cynnydd a wnaeth y Cyngor. Cafodd argymhellion pellach eu gwneud a bydd y Cyngor yn parhau i asesu’r gwasanaeth.”

Mae’r adroddiad a’r canfyddiadau ar gael ar y ddolen ddilynol:

http://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=1164&MId=1833&Ver=4&LLL=0