Dadorchuddio cofgolofn Roy Francis ym Mrynmawr

Cafodd teulu Roy, chwaraewyr rygbi rhyngwladol ddoe a heddiw ac ymwelwyr o bob rhan o Brydain eu croesawu ym Mrynmawr, Blaenau Gwent, pan ddadorchuddiwyd cofgolofn o’r arwr rygbi Roy Francis ddydd Sadwrn 21 Hydref 2023.

Ganwyd Roy mewn cartref nyrsio ar draws yr afon o Stadiwm Princiaplity, Caerdydd ar 20 Ionawr 1919. Roedd ei fam yn wyn a phenderfynodd na fedrai ei gadw felly cafodd ei fagu gan ei dad Albert Francis a’i wraig Rebecca a thyfodd lan ym Mrynmawr. Roedd Roy yn fedrus iawn mewn amrywiaeth o gampau yn cynnwys athletau, nofio, bocsio, a ddywedwyd i fod ei gariad cyntaf, a rygbi. Ar ôl 4 gêm i Frynmawr ac yn 17 oed sylwodd sgowt rygbi’r gynghrair arno ac roedd yn un o’r cyntaf i symud i’r gogledd i rygbi proffesiynol yn Wigan. Roedd hynny’n gryn risg oherwydd y dyddiau hynny nid oedd unrhyw ffordd yn ôl i rygbi’r undeb unwaith yr oeddech wedi llofnodi ar gyfer rygbi’r gynghrair.

Cafodd Roy ddechrau gwych yn Wigan gan sgorio 9 cais mewn 12 gêm ond fe wnaeth cyrhaeddiad hyfforddydd o Awstralia atal ei gynnydd ac er siom i lawer cafodd ei drosglwyddo i Barrow. Fe wnaeth yr Ail Ryfel Byd darfu yn ddifrifol ar ei harosiad hir a hapus yn Barrow fodd bynnag fe wnaeth ddal lwyddo i ennill 72 cais anferth mewn 113 gemau.

Pan oedd yn Barrow, cafodd Roy ei alw i dîm Cymru a chafodd 5 cap a sgorio un cais rhwng 1946-48. Chwaraeodd Roy hefyd un gêm ar gyfer Prydain Fawr a daeth y chwaraewr du cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer unrhyw tîm chwaraeon rhyngwladol ym Mhrydain. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf mewn prawf penderfynu mewn cyfres 3 gêm rhwng Prydain Fawr a Seland Newydd ar 20 Rhagfyr yn Odsal Bowl Bradford, Gyda 42,685 yn bresennol ar y dydd Sadwrn cyn y Nadolig, Roy oedd yr unig Gymro yn y tîm a sgoriodd 2 gais yn yr hanner cyntaf gyda Phrydain Fawr yn ennill 25-17 a chafodd fonws ennill o £10. Disgwylid iddo fod yn rhan o dîm ‘Indomitables’ Llewod Prydain Fawr – a wnaeth hanes drwy fod yr unig ochr i fynd â’r Lludw o Awstralia - ond cafodd Roy ei ddiystyru oherwydd y gwaharddiad lliw a weithredwyd yn Awstralia bryd hynny.

Yn ystod y rhyfel bu’n chwaraewr gwadd i Dewsbury Rams lle’r oedd Eddie Waring yn hyfforddydd a sgoriodd 57 cais mewn 57 gêm a bu’n chwarae hefyd i Orchymyn Gogleddol a Gwasanaethau Lloegr y Fyddin mewn rygbi’r undeb. Ar ôl Barrow symudodd i Warrington am dymor gan sgorio 27 cais mewn 37 gêm. Fodd bynnag i Glwb Pêl-droed Hull y cafodd yr effaith mwyaf fel chwaraewr a hyfforddwr. Rhwng 1948-55 bu’n chwarae 127 gêm a sgorio 60 cais. Yn ei dymor olaf fel chwaraewr hyfforddydd yn Hull daeth yr hyfforddydd Du proffesiynol i unrhyw fath o chwaraeon ym Mhrydain.

Mae’n debyg mai Roy Francis oedd yr hyfforddydd chwaraeon pwysicaf yn hanes Prydain. Ef oedd y cyntaf i fynd ati i wneud fideo a recordio o sesiynau hyfforddi a gemau, gofalodd am les ei chwaraewyr o ran iechyd a diet, a threfnodd deithio i gemau ar gyfer gwragedd a theuluoedd. Fe wnaeth yn bersonol adeiladu llwybr rhedeg yn ymyl Stadiwm Pêl-droed Hull i wella cyflymder chwaraewyr. Dan Roy, enillodd Hull y Bencampwriaeth yn 1956 a 1958. Fe wnaeth y tîm hefyd gyrraedd rownd derfynol y Gwpan Her yn Wembley yn 1959 a 1960 ond ail oeddent ar y ddau achlysur.

Symudodd Roy i Leeds yn 1963 ac yn ystod y 5 mlynedd dilynol enillodd Dlws Arweinwyr Rygbi’r Pencampwriaeth yn 66-67 a 68-68, cwpan Swydd Efrog 68-69 ac yn orau oll, yn 67-68 fe wnaethant ennill y Cwpan Her gan drechu Wakefield Trinity 11-10 yn Wembley yn y rownd derfynol sblash dŵr enwog ar lain amhosibl chwarae arno.

Yn ogystal â 2 gyfnod yn Hull a Leeds, bu Roy yn hyfforddydd yn Bradford Northern a North Sydney Bears yn Awstralia. Roedd cyrraedd Awstralia yn golygu taith 6 wythnos i Roy a’i deulu, gydag arhosiad byr yn Cape Town, De Affrica, ond ni chaniatawyd iddynt roi eu troed yn y wlad oherwydd apartheid. Fe wnaeth hyfforddiant Roy godi’r Bears o waelod i ganol y tabl ond nid oedd y teulu yn hapus ac yn gorfod dioddef sylwadau hiliol. Yr hoelen olaf yn yr arch oedd pan ymddangosodd Roy mewn sioe sgwrsio wythnosol rygbi cynghrair wythnosol, gwnaeth westai sylw ffwrdd a hi am hiliaeth. Safodd Roy a gadael y stiwdio ac yna fynd o Awstralia gan ddychwelyd i hyfforddi yng Nghlwb Pêl-droed Leeds, ac yn olaf yn Bradford Northern.

Wynebodd Roy rwystrau gwleidyddol a hiliaeth ar hyd ei fywyd ond cododd i fod yn un o’r chwaraewyr a hyfforddwyr mwyaf llwyddiannus a fagodd Cymru erioed. Mae tîm bychan o gefnogwyr rygbi’r gynghrair, haneswyr a chynghorwyr a swyddogion Blaenau Gwent wedi gweithio gyda’i gilydd i sicrhau teyrnged wych ac addas i Roy a ddadorchuddiwyd ddydd Sadwrn 21 Hydref yn ystod Mis Hanes Du.

Hoffai’r tîm ddiolch i’r People’s Postcode Lottery, Postcode Community Trust, Hull FC, Leeds Rhinos, Clwb Rygbi Brynmawr, The Talisman, Cymdeithas Hanesyddol Brynmawr, The Talisman, Cymdeithas Hanesyddol Brynmawr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Tref Llywodraeth, Cronfa Balchder Bro Cymru Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Un Alwad Cymru. Ni fyddai’r deyrnged hon wedi bod yn amhosibl hebddynt.

Bydd arddangosfa ffotograffig o Roy Francis i’w gweld yn Amgueddfa Brynmawr o 21 Hydref – 4 Tachwedd 2023. Mae’r amgueddfa ar agor ar ddyddiau Iau rhwng 8.30am a 12.00pm a 2.00pm a 4.00pm, ar ddyddiau Gwener rhwng 10.00 am a 12.00 canol dydd a 2.00pm i 4.00pm a rhwng 10.00am a 12.00 canol-dydd ar ddyddiau Sadwrn. Yn dilyn hyn mae’r arddangosfa ar gael ar fenthyg i ysgolion a mudiadau sydd â diddordeb a bydd copi digidol ar gael i ysgolion yn y dyfodol agos.

Dywedodd Alan Golding, cynhyrchydd rhaglen ddogfen ‘The Codebreakers, ‘Roedd dau chwaraewr yn sefyll allan o’r gweddill, Roy Francis a Clive Sullivan, pan oeddwn yn gwneud y rhaglen. Fe wnaeth i fi a fy mhartner busnes, Tariq Ali, ofyn pam fod cynifer o bobl o dreftadaeth ddu wedi mynd i’r gogledd?’

Ian Golden o Rygbi Cynghrair Cymru, ‘Roedd Roy yn arbennig gan ei fod yn hyfforddydd arloesol a chaiff ei gofio yn rygbi’r gynghrair yn union fel y caiff Carwyn James ei gofio yn rygbi’r undeb. Roedd ei ddulliau hyfforddi yn flaengar ac ef oedd un o’r cyntaf i gefnogi’r teulu cyfan, ar ac oddi ar y cae, yn arbennig ar yr adegau pan oeddent fwyaf ei angen. Gwnaeth hyn i gyd fel dyn o dreftadaeth gymysg yn wynebu’[r casineb a brofodd yn eang’

Yr Athro Tony Collins, ‘Roedd Roy yn wir arloeswr mewn rygbi. Ef oedd tad hyfforddiant rygbi modern ond yn fwy pwysig yn un o’r ffigurau mwyaf c eithriadol ond angof hanes du Prydain ac Iwerddon.’

Lisa Jones, cyfnither Roy, ‘Mae’n anrhydedd ac yn fraint bod yma heddiw. Roedd fy Mam mor falch ohono a roedd yn gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod am ei lwyddiant.’

Dr Victoria Dawson: ‘Gyda’i gilydd roedd Roy a’i wraig Rene yn ganolog wrth feithrin diwylliant teulu yng nglybiau rygbi’r gynghrair. Rhyngddynt, roedd eu gofal bugeiliol yn ddiguro ac fe wnaethant ddylanwadu ar sut y byddai timau gŵr a gwraig yn gweithredu o fewn chwaraeon yn y dyfodol.’

Suzie Frith, wyres Roy, ‘Rwy’n ei gofio yn bennaf fel fy nhad-cu, yn hytrach nag arwr rygbi. Rwyf wedi cael fy llorio gan bopeth a welais ac a glywais heddiw’.

Anne Francis, merch yng nghyfraith Roy, ‘Fe wnaethom dreulio llawer o amser yng nghartref y teulu. roedd yn ddyn preifat iawn ac roedd ganddo synnwyr digrifwch gwych. Roedd gan Roy a Renee gwlwm cryf a gyda’i gilydd bob amser. Fe wnaethant gwrdd yn y tŷ llety yr oedd rhieni Renee yn ei redeg a roedd Roy yn lletya yno. Roeddent yn dîm go iawn, roedd hyd yn oed yn cael llais ar ddewis y tîm ond ni wyddai’r cyfarwyddwyr hynny. Wyddwn i faint o bobl fyddai yno a chawsom ein siomi ar yr ochr orau gan y nifer fawr sydd yma heddiw.’

Glen Webbe, Adain Rygbi Undeb Cymru, ‘Fe ddylai Brynmawr fod yn falch o Roy a’i lwyddiant yn wyneb adfyd. Mae hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol iawn. Mae popeth mor wahanol nawr i beth oeddent yn ei ddydd, roedd cymaint mwy o wahaniad bryd hynny, gwyn/du, undeb rygbi/rygbi’r gynghrair, ac fe fyddai wedi wynebu dau anfantais pe na fyddai wedi bod yn llwyddiant.

Alun Davies AS, ‘Mae hwn yn achlysur gwych ac yn gofgolofn wych yn dod â hanes yn fyw. Llongyfarchiadau i bawb sy’n gysylltiedig.’

Bu Jonathan Davies OBE yn ymgyrchu dros gyfnod hir i gael cydnabyddiaeth i lwyddiannau Roy Francis, ‘mae’n wych fod Roy Francis yn cael ei gydnabod yma heddiw. Fe wnaeth yn wirioneddol dorri tir newydd mewn hyfforddiant rygbi a roedd y cyntaf o’i dreftadaeth ddu i hyfforddi mewn unrhyw gamp proffesiynol. Roedd yn berson arbennig ac yn ddi-os, mae’n sicr fod ei gefndir yn y fyddin wedi ei helpu gyda rheoli pobl a disgyblaeth ei dimau.

Dywedodd Mike Nicholas, Llywydd Rygbi’r Cynghrair Cymru, yn y dadorchuddio, Mae hyn yn hir-ddisgwyliedig, mae’n gydnabyddiaeth yr oedd Roy yn ei gwir haeddu ac mae’n wych bod yma yn Brynmawr ar y diwrnod pwysig yma.’

Silwét yr arwr rygbi Roy Francis. Daeth llawer o bobl ynghyd i gefnogi dadorchuddio.
   
Dadorchuddio y silwét. Johnathan Davies OBE ac Geoff Francis (Roy Francis mab).          Jonathan Davies OBE. Plac Glas.