Da iawn i'n holl ddisgyblion TGAU ym Mlaenau Gwent

Llongyfarchiadau enfawr a da iawn i'n holl ddisgyblion TGAU ar eu cyflawniadau heddiw.

Mae myfyrwyr yn ein holl ysgolion uwchradd unwaith eto wedi cyflawni'n dda ar draws ystod eang o gymwysterau TGAU, ac mae cynnydd sylweddol yn parhau i gael ei wneud mewn sawl maes allweddol.

Ymwelodd yr Aelod Cabinet dros Bobl ac Addysg, y Cynghorydd Sue Edmunds a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg, Dr Luisa Munro-Morris, â phedair ysgol uwchradd y fwrdeistref y bore yma i longyfarch disgyblion a diolch i staff a llywodraethwyr ysgolion.

Meddai’r Cynghorydd Sue Edmunds:

“Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n ymwneud â’r canlyniadau gwych hyn heddiw. I’n disgyblion disglair, gobeithio y byddwch chi’n mynd ymlaen i ddisgleirio yn eich ymdrechion yn y dyfodol. I’n staff ysgol, ein Llywodraethwyr, ein rhieni a’n teuluoedd a’n cymunedau ysgol ehangach, diolch i chi am yr amser a’r gefnogaeth rydych wedi’i roi i’n pobl ifanc yn ystod eu taith addysg sydd wedi eu helpu i gyflawni’r hyn sydd ganddynt heddiw.”

Meddai Dr Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg ym Mlaenau Gwent:

“Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr ym Mlaenau Gwent ac ar draws rhanbarth Gwent. Mae’r gwaith partneriaeth agos rhwng ein hysgolion, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a’r Cyngor, gan gynnwys gwasanaethau cymorth, yn rhoi plant a phobl ifanc yn gadarn wrth galon ein holl waith a’n penderfyniadau. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ysgolion a dysgwyr yn parhau i gael eu cefnogi’n dda wrth iddynt symud ymlaen drwy’r system addysg yma ym Mlaenau Gwent.

"Dymunaf bob lwc a dymuniadau gorau i’n dysgwyr ar gyfer y dyfodol.”