Cyswllt Rheilffordd Newydd

Mae prosiect £738 miliwn y Metro, sy'n rhan o'r Fargen Ddinesig £1.2 biliwn, yn anelu i ymestyn rhwydweithiau rheilffordd Metro i wella mynediad i weithgareddau newydd a phresennol ar gyfer gwaith, hyfforddiant, addysg, diwylliant, manwerthu a hamdden yn ne ddwyrain Cymru. Cynigiwyd datblygu dolen reilffordd 3-4 milltir o Abertyleri i Gwm Ebwy yn Aberbîg fel rhan o'r cynllun. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer 100 cerbyd.

Canlyniad allweddol prosiect Metro yw creu seilwaith trafnidiaeth fydd yn galluogi cyflawni amcanoin cymdeithasol ac economaidd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Byddai dolen reilffordd ychwanegol yn Abertyleri ac Aberbîg, ynghyd â gwasanaeth mwy dibynadwy a chyson, yn helpu i wella ffyniant economaidd Blaenau Gwent.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol dros Adfywio ar Gyngor Blaenau Gwent:

“Bydd hwn yn ganolbwynt teithio allweddol i'r ardal fydd yn helpu i sicrhau ffyniant economaidd cynaliadwy i Flaenau Gwent a De Ddwyrain Cymru. Mae'r rhaglen ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a Metro Plus yn brosiect tymor canol i hirdymor fydd yn helpu cysylltu pobl a chymunedau gyda chyfleoedd cyflogaeth a gwasanaethau.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn derbyn cyfran £3 miliwn i weithredu'r rhaglen, fydd yn hwb gwerthfawr i'r rhanbarth. Bydd gwaith yn dechrau eleni a dylai gael ei orffen yn 2022."