Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn heriol i ni i gyd mewn sawl ffordd, wrth i lawer o rieni wynebu’r pwysau ychwanegol o orfod cydbwyso gofal plant, gwaith ac addysgu gartref. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau, gan alluogi teuluoedd i ddechrau manteisio ar y gofal plant sy’n cael ei ariannu.

Rydym yn deall bod llawer wedi newid o ganlyniad i’r coronafeirws, ac y gallai’r adeg hon fod yn un ofidus i chi. Ond peidiwch â phoeni, rydym wedi rhoi canllawiau i leoliadau gofal plant ar sut y gallant weithredu’n ddiogel a bod yn ‘ddiogel o ran Covid’.

Gan eich bod yn rhiant sydd eisoes wedi manteisio ar y Cynnig, hoffem glywed eich barn am ailagor gofal plant a’r broses ymgeisio ar gyfer y Cynnig. Rydym yn awyddus i ddeall eich safbwyntiau, os oes unrhyw beth wedi newid i chi ac unrhyw bryderon a allai fod gennych.
 
Dylai’r arolwg byr hwn gymryd tua 10 munud i’w gwblhau, a bydd eich ymatebion yn gwbl gyfrinachol:

https://www.smartsurvey.co.uk/s/CynnigGofalPlantCymru-Rhienisyndychwelyd/