Cynllun Talebau Gigabit

Mae 'Cynllun Talebau Gigabit' Llywodraeth Cymru yn awr ar gael a bydd yn helpu tuag at gostau gosod band eang cyflym iawn. Gall busnesau bach, yn cynnwys y cymunedau lleol o'u hamgylch, ddefnyddio'r cymhelliad i gael cyllid ychwanegol ar gyfer cyswllt sy'n addas ar gyfer gigabit.

Ar hyn o bryd mae cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gael i fusnesau i hawlio £2,500 tuag at y gost o osod cyswllt sy'n addas ar gyfer gigabit, sydd ar gael i unigolion neu fel rhan o brosiect grŵp. Gall preswylwyr hawlio taleb gwerth £500 fel rhan o brosiect grŵp sy'n cynnwys busnes. Bydd Llywodraeth Cymru yn talu hyd at £3,000 ychwanegol i fusnesau bach a chanolig ar gyfer prosiectau grŵp, ynghyd â £300 ychwanegol i bob eiddo preswyl. Mae hyn yn gyfanswm o £5,500 ar gyfer prosiectau grŵp yng Nghymru fesul busnes a hyd at £800 ar gyfer pob eiddo preswyl.

Mae Cynllun Taleb Gigabit yn disodli Taleb Cysylltedd Cyflym Iawn Llywodraeth Cymru, er y caiff y ceisiadau hŷn yma eu hystyried o hyd. Bydd cynllun Allwedd Band Eang Cymru hefyd yn dal i fod ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio, Cyngor Blaenau Gwent:

"Mae cysylltiadau band eang cyflym iawn yn dod â chyfleoedd masnachol newydd ac yn rhoi mantais gystadleuol, sy'n hanfodol i fusnes ym Mlaenau Gwent ffynnu a chefnogi ein heconomi. Mae cyflymder lawrlwytho cyflymach a ffrydio data llyfnach yn agor ffyrdd newydd o weithio a hefyd yn dda ar gyfer mynediad i gartrefi. Croesawn y cynllun taleb diweddaraf yma gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig y cysylltedd rhyngrwyd mwyaf dibynadwy ar gyfer busnesau."

Gall dros 95% o safleoedd yng Nghymru gael mynediad i fand eang cyflym iawn, felly i'r 5% sydd ar ôl i gael cyfle i gysylltu, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu'r cymhelliant taleb cyllid hanfodol hwn. Cafodd £22.5m eisoes eu buddsoddi i gyrraedd 26,000 o'r safleoedd sy'n weddill drwy fand eang ffibr. Mae hyn yn ychwanegol at y £200m a fuddsoddwyd eisoes yn rhaglen Cyflymu Cymru sydd wedi cysylltu mwy na 773,000 o safleoedd mewn ardaloedd lle nad oedd gan gwmnïau masnachol unrhyw gynlluniau i fynd iddynt.

Mae mwy o wybodaeth ar Gynllun Taleb Gigabit a'r amrywiaeth opsiynau sydd ar gael i'w gweld yn www.gov.wales/broadband