Cynllun Prentisiaeth Anelu'n Uchel Blaenau Gwent

Mae Rhaglen Prentisiaeth Anelu'n Uchel Cyngor Bwrdeisdref Blaenau Gwent heddiw wedi dathlu blwyddyn gyntaf ei rhaglen. 

Mae'r prentisiaid wedi cwblhau blwyddyn gyntaf y rhaglen ac roedd digwyddiad heddiw yn gyfle i ddathlu a llongyfarch y prentisiaid ar eu llwyddiant.  

Hefyd yn bresennol oedd y prentisiaid yr ail flwyddyn sydd wedi ymrestru i ddechrau'r rhaglen, fydd yn dechrau mewn ychydig wythnosau.   

Yn ystod y diwrnod bu prentisiaid yn siarad am eu blwyddyn gyntaf o brofiad, a ddilynwyd gan dystysgrifau a chyflwyniad i ddathlu eu llwyddiant.

Siaradodd nifer o brentisiaid am yr hyn maent wedi'i gyflawni a pha mor dda yw'r rhaglen. Roedd hefyd yn gyfle i'r prentisiaid newydd sy'n ymuno eleni i glywed am brofiadau prentisiaid eraill a chyflogwyr cynnal.

Dechreuodd Anelu'n Uchel ym mis Medi ac yn y flwyddyn gyntaf ymrestrodd 19 prentis gyda chyflogwyr lletya i ddilyn cynllun prentisiaeth i alluogi'r myfyrwyr i astudio a dysgu ar y swydd. Bydd 17 o'r prentisiaid hyn yn awr yn symud ymlaen i flwyddyn 2.    

Ymrestrodd Matthew Malloy ar y cynllun Prentisiaeth Anelu'n Uchel y llynedd a threuliodd y flwyddyn gyntaf yn llawn-amser yn y coleg gan weithio gyda'i gyflogwr yn ystod y gwyliau. O fis Medi 2016 bydd gyda'i gyflogwr yn llawn-amser, gan dreulio 1 diwrnod yr wythnos yn y coleg i gwblhau ei ddiploma BTEC lawn mewn peirianneg fecanyddol.

Dywedodd Matthew:

"Yn bersonol rwyf wedi mwynhau'r flwyddyn y coleg a'r wythnosau a weithiais. Rwyf wedi cael atgofion bythgofiadwy gyda ffrindiau bythgofiadwy a wnes yn y coleg. Bu'n brofiad gwych. Mae'r tiwtoriaid yn rhagorol ac yn gefnogol iawn yn ein helpu drwy gydol y flwyddyn. Mae'r gefnogaeth gan Anelu'n Uchel hefyd yn wych. Daeth Graham i nifer fawr o adolygiadau gyda ni yn y coleg ac mae'n gwirio'n gyson fod popeth yn mynd yn iawn gyda ni ac yn helpu os oes gennym unrhyw broblemau. Mae hefyd yn sicrhau fod y gwaith a wnaf yn y coleg ac yn y gwaith yn Sears yn gydnaws.

"Mae'r wythnosau a weithiais hyd yma yn Sears wedi bod yn wych. Mae'r profiad newydd o weithio gyda thîm a gweithio ar amrywiaeth o wahanol agweddau yn y ffatri yn gyffrous iawn. Mae'r gefnogaeth gan Daryl a'r rheolwr llinell Damon yn ardderchog, maent yn gwneud yn siŵr fy mod yn iawn drwy gydol y dydd a bob amser yn barod i helpu os wyf yn ansicr o unrhyw beth."   

Dywedodd Jim McIlwee, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol yr Economi, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent: 

 “Llongyfarchiadau i'r rhai sydd wedi gorffen blwyddyn gyntaf y cynllun a phob lwc iddynt yn yr ail flwyddyn yn ogystal â'r myfyrwyr newydd fydd yn dechrau'n fuan. Mae Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu'n Uchel yn gynllun gwych i gynyddu sgiliau, cefnogi a darparu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl ym Mlaenau Gwent. Rwy'n falch fod y rhaglen wedi dechrau mor dda. Rydym yn awr yn recriwtio ar gyfer rhaglen Medi 2016 ac mae gwybodaeth bellach ar gael gan dîm Anelu'n Uchel: sap@blaenau-gwent.gov.uk".

Bydd y rhaglen yn awr yn dechrau'r ail flwyddyn o recriwtio ar gyfer myfyrwyr a chyflogwyr cynnal.

I gael mwy o wybodaeth neu gyfleoedd, cysylltwch â: Tara Lane-01495 355236  / 07805759903 neu Graham Rees 01495 355871 /07814458045   

E: SAP@blaenau-gwent.gov.uk