Cynllun peillwyr Seilwaith Gwyrdd y Cyngor yn ennill gwobr cenedlaethol tirlunio

Mae cynllun a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Fynwy er budd gwenyn, pryfed eraill sy’n peillio a’u cynefinoedd wedi ennill gwobr bwysig.

Enillodd Cynllun Gweithredu y Seilwaith Gwyrdd ar gyfer Peillwyr Wobr y Llywydd yn seremoni flynyddol y Sefydliad Tirlun ddydd Iau 25 Tachwedd. Y cynllun yw’r cyntaf o’i fath ac mae’n nodi sut gall perchnogion tir drin eu heiddo’n fwy effeithlon a chydweithio i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn gwenyn a pheillwyr eraill.

Paratowyd y cynllun gan benseiri tirlun TACP o Gaerdydd a rheolwyd y prosiect gan Mackley Davies Associates Cyf i greu cynefinoedd newydd ar gyfer peillwyr ar ran cynghorau lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy a Thorfaen. Roedd y cynllun yn un o nifer o brosiectau unigol ac ar y cyd a ffurfiodd ran o brosiect Peillwyr am Oes a gydlynwyd gan Gyngor Torfaen, ac a gyflwynwyd gan y pedwar cyngor lleol gyda chyllid o raglen Cronfa Natur Llywodraeth Cymru. Cafodd gwaith Sir Fynwy ar y Cynllun Gweithredu ei ategu gan ddatblygu gardd peillwyr ym Mrynbuga a’i ysbrydoli gan ei ddull polisi seilwaith gwyrdd newydd at ddatblygu a rheoli. Canmolwyd y cynllun yn neilltuol am y manteision a ddaeth yn sgil cydweithio rhwng cynghorau cyfagos, landlordiaid cymdeithasol, gwasanaethau argyfwng, ysgolion, perchnogion tir a grwpiau cymunedol eraill. Mae’n amlinellu camau gweithredu i annog gwenyn a phryfed peillio eraill. Mae hyn yn cynnwys torri glaswellt i wahanol uchder ar wahanol adegau’r flwyddyn a datblygu dolydd blodau gwyllt neu ardaloedd plannu ffurfiol.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Hobson, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am fioamrywiaeth a chynaliadwyedd: “Bydd y cynllun yn cefnogi ac ysbrydoli prosiectau tirlunio ar dir cyhoeddus i unioni’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a sicrhau amgylcheddau sy’n ffafrio peillwyr. Mae’n amlwg fod gwenyn a peillwyr eraill yn dod yn llai iach a thoreithiog a bydd diffyg gweithredu yn cael goblygiadau difrifol ar gynhyrchu bwyd.”

Llongyfarchodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru Benseiri Tirlun TACP a phawb a gymerodd ran yn y prosiect. “Bydd Cynllun Gweithredu y Seilwaith Gwyrdd ar gyfer Peillwyr yn Ne Ddwyrain Cymru yn gydnaws gyda chynllun newydd Llywodraeth Cymru ar warchod gwenyn. Rwy’n falch fod cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru dan y Gronfa Natur wedi galluogi awdurdodau lleol a chymunedau i helpu Cymru arwain wrth gefnogi peillwyr.”

Ychwanegodd Bob Wellington CBE, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen: “Rydym yn hynod falch i fod yn gysylltiedig gyda’r wobr bwysig iawn hon ym myd pensaernïaeth tirlunio. Mae peillwyr yn dirywio ym mhob rhan o’r byd a nod y prosiect Peillwyr am Oes yw cynyddu bioamrywiaeth ar draws y pedair sir ac ailgysylltu pobl gyda natur drwy blannu blodau gwyllt a choed.

“Mae’r cynllun hwn yn rhan o’r prosiect hwnnw a gellir ei ddefnyddio i helpu unrhyw un sy’n gyfrifol am reoli tir a gofod agored i wneud hynny mewn modd sy’n creu cynefinoedd cynaliadwy ac iach ar gyfer pryfed peillio.” 

Dywedodd Jo Wall, Cyfarwyddwr TACP: “Bu’n fraint i ni weithio gyda chynghorau Sir Fynwy, Torfaen, Caerffili a Blaenau Gwent i ddatblygu Cynllun Gweithredu y Seilwaith Gwyrdd ar gyfer Peillwyr. Datblygodd yr allbynnau hylaw i annog cyfranogiad gyda’r nod o gynyddu plannu ar gyfer peillwyr ym mhob gofod o erddi ac ysgolion i ofodau cyhoeddus.”