Cynllun Datgarboneiddio – Gweithredu ar Newid Hinsawdd

Mae Pwyllgor Craffu y Cyngor heddiw wedi croesawu’r Cynllun Datgarboneiddio ac argymell bod y Cyngor yn ei gymeradwyo.

Mae’r Cynllun yn cyflwyno uchelgais y Cyngor i fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030, gan gefnogi’r amcan a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i’r holl sector cyhoeddus fod yn niwtral o ran carbon erbyn y dyddiad hwnnw.

Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i gynlluniau sydd eisoes yn mynd rhagddynt i ostwng effaith carbon y Cyngor yn cynnwys y prosbectws ynni newydd, y rhaglen Re-Fit ac ymestyn goleuadau stryd LED. Mae’r Cynllun yn nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu pellach sy’n cynnwys:

• trafnidiaeth a theithio (uniongyrchol ac wedi’i gomisiynu);
• caffaeliad (yn cynnwys nwyddau, gwasanaethau a gweithiau);
• trydan;
• gwres;
• dal a storio carbon;
• gwastraff.

Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Mae’r Cyngor yn llwyr gefnogol i ostwng allyriadau carbon ac yn cefnogi targed Llywodraeth Cymru o ddod yn niwtral o carbon.

“Dan arweiniad cynllun Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru, mae’r Cyngor wedi gosod ei agenda i gefnogi’r targed. Mae Cynllun Datgarboneiddio Blaenau Gwent yn amlygu dull gweithredu strategol 10 mlynedd sy’n cynnwys ffocws ar gydweithredu a gaiff ei yrru gan data a newid ymddygiad. Mae’n cefnogi nifer o flaenoriaethau’r Cyngor yn cynnwys cyfrannu tuag at gymuned gref ac amgylcheddol graff.

“Rydym wedi dechrau mapio ein ôl-troed carbon a chafodd llinell sylfaen y data ei gasglu yn ystod 2018/2019. Defnyddiwyd y data hwn i ddynodi naw trosiant y Cynllun Datgarboneiddio.”

Mae’r cynllun yn rhoi sylw i feysydd lle gellir gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddod yn niwtral o ran carbon a sicrhau Cyngor mwy effeithiol. Bydd hefyd yn helpu i ddynodi cyfleoedd ar gyfer arbedion cost o ostwng carbon a chynhyrchu incwm drwy gynlluniau ynni adnewyddadwy.”

Ychwanegodd y Llefarydd:

“Mae’r Cyngor eisoes yn cymryd nifer o gamau i ostwng ein heffaith sy’n cynnwys buddsoddi mewn goleuadau LED ynni isel ar gyfer goleuo strydoedd, gostwng y defnydd o ynni mewn ysgolion a gostwng faint o wastraff a anfonir i domen lanw.”

Y nod yw cyflwyno’r Cynllun Datgarboneiddio drwy brosiectau hollbwysig megis Cwm Tawel, Trawsnewid Gweithle a’r Prosbectws Ynni. Bydd gwaith yn parhau i ddynodi sut y gall y Cyngor wneud gostyngiadau sylweddol yn yr ôl-troed carbon drwy agweddau eraill o ddarpariaeth gwasanaeth tebyg i gaffael a chomisiynu nwyddau a gwasanaethau.

Mae’r adroddiad a’r Cynllun Datgarboneiddio ar gael drwy glicio ar y ddolen islaw:
http://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/documents/s4973/Report.pdf?LLL=0