Cynllun Datblygu Newydd i Flaenau Gwent

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) a fydd yn cael ei ddefnyddio i arwain datblygiad yn y Fwrdeistref tan 2033.

Cyn paratoi’r cynllun manwl, mae’r cyngor yn ymgynghori ar “Strategaeth a Ffefrir”.  Mae hon yn amlinellu’r weledigaeth, yr  amcanion a’r strategaeth a ffefrir ar gyfer datblygiad yn yr ardal.

Fe allwch chi helpu cynllunio dyfodol Blaenau Gwent trwy adael i’r cyngor wybod beth rydych chi’n ei feddwl o’r Strategaeth a Ffefrir.

A yw’r strategaeth:

• Yn nodi’r heriau iawn i’w trafod gan y cynllun datblygu newydd?
• Yn darparu digon o swyddi newydd i gyfrannu at dwf economaidd?
• Yn darparu digon o gartrefi gan gynnwys cartrefi fforddiadwy?
• Ydy’r twf yn y lleoedd cywir?

Mae’r cyfnod ymgynghori’n rhedeg o Ionawr16, 2020 tan Chwefror 27, 2020.

Yn ystod y cyfnod hwn, caiff y cyhoedd gyfle i drafod cynigion gyda swyddogion mewn sesiynau galw-heibio a gynhelir ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Gellir gweld taflen o grynodeb, y ddogfen gyflawn, ffurflenni sylwadau a phob dogfen gefnogol ar wefan y cyngor.

I weld copïau celyd o’r dogfennau ymgynghorol, cewch ymweld â:

• Phob llyfrgell leol
• y Ganolfan Ddinesig, Glyn Ebwy
• Llys yr Eingion, Abertyleri


Cewch hefyd gysylltu â swyddogion ar (01495) 355538 neu 354740.  Fel arall, e-bostiwch planningpolicy@blaenaugwent.gov.uk