Cyngor yn gwahodd sylwadau ar newidiadau i'r Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol ac Ôl 16

Yr opsiwn a ffafrir gan y Cyngor yw dychwelyd i'r pellter statudol sy'n cymhwyso disgyblion am gludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol a gostyngiad graddol yn swm y grant teithio a delir i fyfyrwyr ôl 16 dros gyfnod o dair blynedd, gan ei ddileu'n llwyr erbyn mis Medi 2012.

Gallwch gymryd rhan nawr drwy lenwi holiadur ar-lein neu fynychu un o'r digwyddiadau ymgynghori dilynol:

  • Dydd Iau, 14 Mehefin: Y Metropole, Abertyleri, 3pm i 6pm
  • Dydd Llun, 18 Mehefin: Canolfan Dysgu Gweithredol (LAC) Brynmawr, 3pm i 6pm
  • Dydd Mawrth, 19 Mehefin: Canolfan Gymunedol Cwm, 3pm i 6pm
  • Dydd Mercher, 20 Mehefin: Tŷ Bedwellte, Tredegar, 3pm i 6pm
  • Dydd Mawrth, 26 Mehefin: Canolfan Gymunedol Rasa, Glynebwy, 3pm i 6pm
  • Dydd Mercher, 4 Gorffennaf: Canolfan Gymunedol Waundeg, 81 Waundeg, Tredegar, 3pm i 6pm

Mae'r ymgynghoriad ar agor nawr a daw i ben am 5pm dydd Mawrth 17 Gorffennaf 2018.

Fel rhan o broses gosod y gyllideb, penderfynodd y Cyngor adolygu ei Bolisi Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol ac Ôl 16 gyda golwg ar wneud arbedion ariannol o fewn y gwasanaeth.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Blaenau Gwent yn gweithredu polisi hael uwchben y pellter statudol. Mae hefyd yn darparu grant teithio ôl 16 ar gyfer pobl ifanc sy'n mynychu colegau a darpariaeth chweched dosbarth tu allan i'r sir, nad oes gofyniad statudol i'w wneud. Mae nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dychwelyd yn ddiweddar i bellter statudol ar gyfer cludiant rhwng y cartref a'r ysgol.

Y pellter statudol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yw:

• Dan 8 mlwydd oed – Terfyn statudol 2 filltir
• 8 – 11 mlwydd oed - Terfyn statudol 2 filltir
• 11 – 16 mlwydd oed - Terfyn statudol 3 milltir

Hefyd cynhelir ymgynghoriad gyda myfyrwyr yn Hafan Dysgu Blaenau Gwent a phobl ifanc yn Fforwm Ieuenctid Blaenau Gwent yn ogystal â'r Uwch Gyngor Plant.

Dywedodd y Cyng Clive Meredith, Aelod Gweithredol dros Addysg y Cyngor:

“Fel rhan o'r cynllunio ariannol ar gyfer cyllideb eleni gwnaethom ymrwymiad i adolygu unrhyw feysydd gwasanaeth ar draws y Cyngor i ddynodi arbedion posibl. Mae Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol ac Ôl 16 yn un o'r meysydd hyn ac felly cytunwyd adolygu'r polisi ac ymgynghori ar gynnig mewn camau i ddychwelyd i'r pellter statudol a hefyd ystyried opsiynau cludiant ôl 16.

“Gwahoddwn sylwadau a dymunwn glywed gan gynifer o bobl ag sydd modd fel rhan o'r ymgynghoriad cyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau yng nghyswllt polisi. Os caiff ei gymeradwyo, gallai'r newidiadau olygu dychwelyd i'r pellter statudol a argymhellir gan Lywodraeth Cymru; fodd bynnag, mae'n bwysig i'r Cyngor edrych ar wneud yr arbedion gofynnol tra'n gweithio i leihau unrhyw effaith negyddol bosibl ar addysg ein plant a'n pobl ifanc.”