Cyngor yn derbyn Gwobr Arian am gefnogaeth i'r lluoedd arfog

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi derbyn Gwobr Arian Cydnabyddiaeth Cyflogwyr Amddiffyn am ei ymrwymiad i sicrhau nad yw personél y gwasanaeth a chymuned y lluoedd arfog dan anfantais annheg pan fyddant yn ceisio cyflogaeth gyda'r cyngor.

Derbyniodd y Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, y wobr ar ran yr awdurdod yng Ngwobrau'r Lluoedd Arfog yng Nghymru yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Dywedodd fod y wobr yn cydnabod ymrwymiad parhaus y Cyngor i gefnogi aelodau presennol a chyn aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd.

Fel rhan o gyflawni'r Wobr Arian, fe wnaeth y cyngor yn ddiweddar fabwysiadu Polisi Amser Bant i Aelodau o'r Lluoedd Wrth Gefn sy'n cynnwys 15 diwrnod o absenoldeb ar dâl ar gyfer hyfforddiant, yn ogystal â chefnogi mobileiddio.

Mae'r Wobr Arian yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i'r gymuned lluoedd arfog drwy Gyfamod y Lluoedd Arfog. Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn rhoi disgwyliad ar y sawl a'i llofnododd y byddant yn sicrhau y caiff y gymuned Lluoedd Arfog ei thrin yn deg ac na fydd dan anfantais fel canlyniad i'w gwasanaeth. Llofnododd y Cyngor y Cyfamod yn 2014 ynghyd ag ystod o bartneriaid sifilian yn ogystal â phartneriaid milwrol eraill, ac mae'r Cynghorydd Thomas yn gadeirydd Grŵp Llywio Cyfamod Lluoedd Arfog Blaenau Gwent sy'n mynd â'r gwaith hwn rhagddo.