Cyngor yn Cynllunio Adferiad Economaidd yn dilyn Covid

Cafodd adroddiad yn cyflwyno’r strategaeth y bydd y Cyngor yn ei defnyddio i ymateb i’r pandemig Covid-19 i gefnogi sectorau busnes a gweithgaredd economaidd o fewn yr ardal ei drafod a’i argymell mewn cyfarfod Craffu.

Defnyddiwyd gwahanol ffynonellau data ar gyfer y Deyrnas Unedig a Chymru i ragweld y sefyllfaoedd achos gwaethaf o sut y bydd yr heriau presennol gyda’r pandemig yn effeithio ar weithgaredd economaidd. Felly, mae’r Cyngor wedi ystyried nifer o gynlluniau i gefnogi busnesau a dylanwadu ar y gwaith adferiad economaidd:

  • Rhaglen wedi ei thargedu o gyngor technegol ar weithgynhyrchu, buddsoddiad a sgiliau adeiladu

  • Rhaglen sgiliau digidol ar draws pob sector

  • Cefnogaeth cadwyn gyflenwi, ynghyd â safleoedd busnes newydd a gwell

  • Cefnogaeth benodol ar gyfer cwmnïau twf ac ymchwil a datblygu ym Mlaenau Gwent

  • Mynediad i gynlluniau ar gyfer hyfforddiant cysylltiedig â gwaith ôl-addysg i rai 18-24

  • Adeiladu’r economi sylfaen gyda chaffael lleol

  • Lledaenu hygyrchedd drwy ddatrysiadau trafnidiaeth arloesol/cynaliadwy

  • Galluogi mwy o fusnesau newydd yn arbennig yng nghanol trefi gyda phresenoldeb ar-lein o’r dechrau cyntaf

  • Cynnydd gyda phrosiectau sylweddol tymor hirach fel angorau i wynebu’r dyfodol ar gyfer buddsoddiad i Flaenau Gwent

 

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Cafodd y pandemig Covid effaith fawr ar yr economi a busnesau a bydd yr ychydig fisoedd nesaf yn cyflwyno heriau pellach ond mae’n rhaid i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae’r Cyngor wedi ailwampio rhai o’r cynlluniau y mae’n mynd â nhw rhagddynt i gefnogi busnes a chyflogaeth o fewn yr ardal. Mae busnesau wedi llwyddo i fasnachu drwy’r cyfnod clo, fodd bynnag fel mewn llawer o ardaloedd eraill, mae trosiant wedi bod yn is nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Rydym wedi defnyddio data i ragweld, cynllunio ac ystyried yr hyn y gall y Cyngor ei wneud i gefnogi’r cyfnod adfer a hefyd i adeiladu cadernid ariannol a helpu busnesau i addasu. Rydym yn annog busnesau i barhau ar agor. Os ydych angen cymorth a chyngor busnes, cysylltwch â’n Tîm Busnes ac Arloesedd os gwelwch yn dda.”


Manylion Cyswllt Tîm Busnes ac Arloesedd:

E: Business@blaenau-gwent.gov.uk

Ff: 01495 355700

Gellir gweld yr adroddiad llawn drwy glicio ar y ddolen ddilynol:

http://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/documents/s5837/Report.pdf?LLL=0