Cyngor yn Cymeradwyo’r Gyllideb a’r Dreth Gyngor

Mae dull strategol y Cyngor o gynllunio ariannol dros y 12 mis diwethaf wedi’n galluogi i osod cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn nesaf a chytuno ar gyllideb ddangosol ar gyfer 2020-21. Yr allwedd i’r sefyllfa hon yw cymryd dull gweithredu mwy masnachol a meddwl am wahanol ffyrdd i ateb gofynion ein preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

Am y tro cyntaf mewn nifer o flynyddoedd derbyniodd y Cyngor gynnydd o tua £4.3 miliwn mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’r setliad ariannol cadarnhaol hwn, ynghyd â’r gostyngiadau cost a sicrhawyd drwy raglen Pontio’r Bwlch, yn golygu y bydd cynnydd o 5% mewn cyllid yn mynd yn uniongyrchol i’n hysgolion i gyllido pwysau cost ac mae’n arbennig o ddymunol medru gwneud hyn tra’n gwarchod swyddi a gwasanaethau’r Cyngor, gan roi peth sicrwydd i’n staff dyfal a’n preswylwyr.

Cymeradwywyd  cynnydd o 3.9% ar gyfer elfen Blaenau Gwent y Dreth Gyngor – mae hyn yn gyfwerth â chynnydd o 82c yr wythnos ar gyfer aelwydydd Band A a 96c yr wythnos ar gyfer aelwydydd Band B. Oherwydd y nifer uchel o gartrefi yn y bandiau is hyn (85%), mewn blynyddoedd blaenorol roedd yr hyn yr oedd pobl yn ei dalu mewn gwirionedd am eu Treth Gyngor yn un o’r isaf yng Nghymru ar gyfartaledd. Disgwylir i’r cynnydd fod yn un o’r isaf ar draws Cymru.

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn, dywedodd yr Arweinydd Nigel Daniels:

‘Rwy’n credu fod y Gyllideb y gwnaethom ei chymeradwyo heddiw yn un deg a chytbwys. Rydym yn croesawu’r newyddion am y cynnydd mewn cyllid a dymunwn gydnabod a diolch i Lywodraeth Cymru ond nid yw’n gwrthdroi y gostyngiadau sylweddol yn y gyllideb dros y 10 mlynedd ddiwethaf ac mae’n rhaid i ni barhau i fod yn ariannol ddarbodus a gweithio’n galed i ateb gofynion gwasanaethau tra’n cael cyllideb gytbwys.

Drwy ein dull cynllunio strategol a’n prosiectau Pontio’r Bwlch rydym yn parhau gyda chynlluniau blaengar i drawsnewid gwasanaethau a dod yn gyngor sy’n meddwl mewn ffordd fwy masnachol felly gallwn barhau i adeiladu nerth ariannol a rydym wedi paratoi’n dda ar gyfer yr heriau i ddod. Mae’r prosiectau hyn hefyd yn bwysig i’n hymrwymiad i gynnal ein hamgylchedd a diogelu llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Mae cynnydd yn y Dreth Gyngor yn anochel er mwyn codi’r incwm ychwanegol sydd ei angen i barhau i gyllido gwasanaethau hanfodol a hefyd rai gwasanaethau anstatudol y gwyddom sy’n bwysig i’n preswylwyr. Fodd bynnag, rwy’n falch i ni fedru cadw’r cynnydd hwn yn isel ac o dan y lefel a fwriadem yn wreiddiol ac wedi’i osod 1% yn is nag yn 2019-20.’